Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithwyr yn y Gwasanaethau Caffael yn dathlu llwyddiant yng ngwobrau mawreddog yr HCSA

Llongyfarchiadau i Rowena Thomas, y Rheolwr Rhanbarthol – Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth (Gogledd Cymru), a’r tîm Trechu Tlodi Gwelyau, mewn partneriaeth â chydweithwyr Caffael Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a ddathlodd lwyddiant yng Ngwobrau Caffael Cenedlaethol y Gymdeithas Cyflenwi Gofal Iechyd.

Mae’r seremoni wobrwyo fawreddog, a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd ym Manceinion, yn dathlu rhagoriaeth mewn adrannau Caffael a Chadwyn Gyflenwi ar draws pedair gwlad y DU, gan arddangos arferion gorau a chyflawniad ym maes rheoli caffael a llywodraethu.

Enillodd Rowena y wobr Rhagoriaeth Caffael am ei hagwedd ragorol at ei gwaith, gan fynd gam ymhellach i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r gwasanaeth cadwyn gyflenwi, logisteg a thrafnidiaeth gweithredol i’r defnyddwyr gwasanaeth sy’n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (Gogledd Cymru), gan geisio gwella'r gwasanaeth a ddarperir i'r defnyddwyr gwasanaeth hefyd a chefnogi gofal a chanlyniadau cleifion yn y pen draw.

Enillodd y Tîm Trechu Tlodi Gwelyau yn y categori Cydweithrediad Traws-swyddogaethol ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Fel rhan o ddadgomisiynu Ysbyty Maes y Bae, roedd y Tîm a’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod fod tua 600 o welyau dros ben a oedd yn anaddas ar gyfer y sector acíwt neu iechyd cymunedol a fyddai’n ddelfrydol i’w rhoi i deuluoedd ac i’r bobl hynny sydd â’r angen mwyaf o fewn y gymuned leol. Sefydlwyd gweithgor bach a oedd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe a Gwasanaethau Gwirfoddol Cymunedol Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Cafodd y prosiect gydnabyddiaeth ar lefel genedlaethol ac ers hynny mae wedi'i ddefnyddio ar sail Cymru gyfan gan helpu miloedd yn fwy o bobl gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau llawer o drigolion Bae Abertawe sy'n wynebu trallod.

Unwaith eto, mae’r canlyniadau unigol a chyfunol yn amlygu’r gwaith caled a’r ymroddiad a ddangoswyd gan staff PCGC sy’n cyd-fynd â gwerthoedd craidd sefydliadol y Bartneriaeth Cydwasanaethau.

Meddai Graham Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Caffael – Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth; “Unwaith eto, mae’r Is-adran Caffael a’r Gwasanaeth Negesydd Iechyd wedi dangos ein bod yn darparu gwasanaethau rhagorol sydd wedi ennill gwobrau i GIG Cymru. Mae’n adlewyrchiad gwych ar PCGC yn ei gyfanrwydd, ond hefyd yn glod mawr i’r unigolion a’r timau a enillodd wobrau.”

Meddai Keir Warner, arweinydd Caffael Trechu Tlodi Gwelyau, “Dangosodd y gwaith hwn yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd gwir gydweithio yn digwydd. Roedd canlyniad y prosiect hwn yn dda i'r Bwrdd Iechyd gan fod modd defnyddio gwelyau nad oedd eu hangen mwyach. Yn bwysicach fyth, drwy feddwl yn wahanol ac ymgysylltu â’r sector cyhoeddus ehangach yn y rhanbarth rydym wedi gwella bywydau rhai o’r bobl sy’n fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Rwy’n hynod falch fy mod wedi gweithio gydag Amanda Davies a’r tîm ar hyn.”

Rhannu: