Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddwr PCGC yn derbyn MBE yn ffurfiol

Mae Anne-Louise wedi cael gyrfa amrywiol a chyfoethog a ddechreuodd ym Manceinion, lle bu’n gyfreithiwr dan hyfforddiant. Yn ystod yr 1990au cynnar, symudodd Anne-Louise i Gymru, gan weithio i’r Swyddfa Gymreig, cyn cael ei phenodi’n Rheolwr Cyfreithiol yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg ym 1996.

Dywedodd Anne-Louise y canlynol am gael ei hurddo â MBE:

“Rydw i wrth fy modd o fod wedi derbyn yr anrhydedd hwn ac yn gwerthfawrogi’r holl negeseuon yn fy llongyfarch i. Mae fy llwyddiant, fel y mae, o ganlyniad i waith caled a chanlyniadau rhagorol pawb yn fy nhimau yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg a Chronfa Risg Cymru.

Roedd fy nhrip i Balas Buckingham gyda fy ngŵr a fy mhlant i gasglu’r MBE yn hyfryd. Roeddwn wrth fy modd yn gwisgo fy het newydd. Roedd y Tywysog Charles yn gyfeillgar, roedd yr haul yn tywynnu a chawsom ginio gwych ar ôl hynny.”

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr PCGC, Neil Frow:

“Hoffwn longyfarch Anne-Louise ar dderbyn gwobr ffurfiol yr MBE. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ei phroffesiynoldeb, ei hymroddiad a’i hymdrechion diflino yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg, Cronfa Risg Cymru ac yn GIG Cymru yn ei gyfanrwydd. Mae hwn yn gyflawniad ardderchog ac rydw i’n falch bod gwasanaeth ymroddgar Anne-Louise wedi cael ei anrhydeddu â’r MBE.”

Rhannu: