Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi penodi Cadeirydd newydd PCGC

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) yn falch o gadarnhau penodi’r Athro Tracy Myhill OBE fel olynydd ein Cadeirydd cyfredol, Margaret Foster OBE.  

Mae Tracy yn uwch arweinydd llwyddiannus gyda thros 35 mlynedd o brofiad ar draws y gwasanaeth iechyd cenedlaethol, y llywodraeth, tai a lleoliadau nid-er-elw ac mae ganddi brofiad sylweddol mewn rolau Cadeirydd, Cyfarwyddwr Anweithredol, Cyfarwyddwr AD Cenedlaethol, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithredol.

Dechreuodd Tracy ei gyrfa hir ac adnabyddus fel swyddog clerigol, gan ddatblygu trwy Adnoddau Dynol, ac ymddeol ym mis Rhagfyr 2020 fel Prif Weithredwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.  Dyfarnwyd OBE i Tracy am ei gwasanaethau i GIG Cymru ac mae’n Gyrnol Anrhydeddus ar gyfer Ysbyty Maes (Cymru) 203 ac yn Athro Anrhydeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Trwy ei hamrywiaeth o rolau yn GIG Cymru, mae gan Tracy brofiad uniongyrchol o’r holl wasanaethau a ddarperir trwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Bydd yr Athro Myhill yn ymgymryd â’i rôl newydd ddechrau mis Rhagfyr 2021.

Meddai’r Athro Myhill ar ôl cyhoeddi ei phenodiad;

“Rwyf wrth fy modd o fod wedi fy ngwahodd i wasanaethu fel Cadeirydd Pwyllgor y Bartneriaeth ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chydweithwyr PCGC a phartneriaid ledled Cymru.”

Rhannu: