Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi penodiad Cyfarwyddwr Meddygol PCGC

 

Mae’n bleser gan PCGC gyhoeddi penodiad Ruth Alcolado fel Cyfarwyddwr Meddygol.

Cymhwysodd o Ysgol Feddygol Southampton yn 1987 a hyfforddodd fel meddyg gyda diddordeb mewn gastroenteroleg a hepatoleg yn Llundain, Caergrawnt a Southampton cyn symud i Gymru lle y derbyniodd ei swydd gyntaf fel ymgynghorydd yn Singleton, gan symud i Gwm Taf yn 2000.

Me wedi bod yn brysur iawn gydag addysg a hyfforddiant meddygol ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig dros yr ugain mlynedd diwethaf yng Nghymru. Mae’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm cyflogwr arweiniol sengl ar y prosiect pwysig hwn i wella profiad hyfforddeion a gyflogir yng Nghymru.

Derbyniodd Ruth ei rôl arweinyddiaeth feddygol gyntaf fel cadeirydd gweithgor clinigol amlddisgyblaethol Cwm Taf a’i chred yw i bob disgyblaeth gydweithio er lles cleifion. Yn dilyn y profiad cychwynnol hwn ym maes arweinyddiaeth feddygol, derbyniodd swyddi fel cyfarwyddwr clinigol i ddechrau, yna Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt (AMD) ac yn ddiweddarach dirprwy gyfarwyddwr meddygol BIP Cwm Taf a BIP Cwm Taf Morgannwg.

Arweiniodd ei gwaith ar drawsnewid gwasanaethau meddygol acíwt i’w rôl Cymru Gyfan gyntaf. Mae Ruth yn gweithio i’r NCCU fel Dirprwy Gyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Meddygol ar gyfer PCGC. O ganlyniad i’w rôl genedlaethol, mae Ruth yn gyfarwydd ag ystod a dyfnder yr her sy’n wynebu’r GIG gyfan yng Nghymru wrth i ni ddod allan o’r pandemig.

Mae’n ymrwymedig i ddarparu llais clinigol i’r sefydliad, a rhoi cefnogaeth glinigol iddo wrth iddo ddatblygu portffolio o wasanaethau clinigol a chymorth clinigol gan gynnwys gwasanaethau arloesol megis CIVAS, Archwilwyr Meddygol Cenedlaethol a’r Cyflogwr Arweiniol Sengl.

Dywedodd Ruth, “Ar ôl yr holl waith anhygoel a wnaed i gefnogi GIG Cymru trwy’r pandemig, mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â PCGC. Wrth i’r sefydliad ddatblygu portffolio ehangach o wasanaethau sy’n ymwneud a materion clinigol, gobeithiaf fod yn eiriolwr clinigol ar ran y Bartneriaeth Cydwasanaethau.”

Rhannu: