Neidio i'r prif gynnwy

Cymru'n anfon cyflenwadau meddygol i gefnogi'r Wcráin drwy ganolfan ddosbarthu ranbarthol PCGC

Mae llwyth llong cyntaf o gyflenwadau meddygol gan gynnwys peiriannau anadlu, rhwymynnau a masgiau wyneb yn cael eu hanfon o Gymru heddiw drwy ganolfan ddosbarthu ranbarthol IP5 PCGC i gefnogi pobl yr Wcráin .

Gadawodd y cyflenwadau meddygol Gymru y bore yma (dydd Gwener 11 Mawrth 2022) a byddant yn cael eu hedfan i Wlad Pwyl, yna i'r Wcráin.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

 

"Mae Cymru'n sefyll mewn undod â'r Wcráin a'i phobl. Mae cysylltiadau Cymru â'r Wcráin yn hir ac yn ddwfn, ac rydym yn barod i gynnig unrhyw gymorth ymarferol a chymorth dyngarol a allwn."

 

"Y ffordd orau i bobl Cymru gefnogi'r Wcráin yw rhoi arian i'r Pwyllgor Argyfwng Trychineb, fel y gellir prynu cyflenwadau mor agos at eu hangen â phosibl."

 

Fodd bynnag, yr ydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i nodi cyflenwadau meddygol y mae eu hangen ar frys. Mae gennym gyflenwadau meddygol pellach yn barod i fynd i’r Wcráin. Os gallwn ni helpu pobl yr Wcráin mewn unrhyw ffordd, byddwn ni'n gwneud hynny."

 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £4m i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau i ddarparu cymorth yn yr Wcráin lle mae ei angen fwyaf.

Rhannu: