Llongyfarchiadau i’n cydweithwyr yn y Gwasanaethau Caffael a’r Gwasanaeth Negesydd Iechyd, sef Claire Salisbury, sy’n derbyn MBE a Paul Buckingham am dderbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig, am eu cyfraniadau rhagorol i GIG Cymru yn ystod pandemig y coronafeirws fel rhan o Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Mae Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn nodi pen-blwydd swyddogol brenhines Prydain trwy benodi unigolion i urddau cenedlaethol neu ddyfarnu arwisgiadau a medalau. Cyflwynir yr anrhydeddau gan y Frenhines neu gynrychiolydd y Frenhines. Mae'r Anrhydeddau Pen-blwydd yn un o ddwy restr o anrhydeddau blynyddol, ynghyd ag Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd ac fe'u gohiriwyd o fis Mehefin er mwyn anrhydeddu'r rhai sydd wedi gwneud cyfraniadau rhagorol yn ystod pandemig y coronafeirws.
Llwyddodd Claire, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Caffael ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, i gael gafael ar gyflenwadau hanfodol o gyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ac ar sail Cymru Gyfan yn ystod yr argyfwng.
Meddai Claire: "Roedd yn anodd iawn cael gafael ar PPE mewn marchnad doredig, ond rwy'n teimlo’n angerddol iawn am helpu pobl a dyna pam ymunais i â'r GIG. Roedd angen ymdrech enfawr i wneud i'r cyfan ddigwydd a llwyddais i sicrhau'r contract ar gyfer y pedair gwlad. Rwyf mor ddiolchgar i’r bobl sydd wedi cydnabod fy ymdrechion."
"Dywedodd Claire ei bod wedi cael sioc ac wrth ei bodd yn derbyn y wobr a diolchodd i holl staff y GIG sydd wedi gwneud cymaint yn ystod y pandemig: “Rwy’n falch iawn o dderbyn y wobr hon a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un o fy nghydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a PCGC sydd wedi fy nghefnogi i a fy nhîm i ddarparu ymateb llwyddiannus i Covid i GIG Cymru.”
Meddai Jonathan Irvine, Cyfarwyddwr Caffael a’r Gwasanaeth Negesydd Iechyd: “Rwy’n falch iawn bod Claire wedi derbyn MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. Mae hon yn wobr haeddiannol iawn sy'n cydnabod yr amser a'r ymdrech enfawr a roddodd Claire, ac mae’n parhau i roi, wrth gyrchu a sicrhau llinellau cyflenwi hanfodol o PPE ar ran GIG Cymru. Mae sgiliau a phrofiad Claire wedi bod yn allweddol yn yr hyn a ystyrir yn ymateb caffael llwyddiannus iawn gan PCGC i her COVID. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i Claire ar gyfer ei dyfodol yn PCGC ac unwaith eto, hoffwn ei llongyfarch yn ddiffuant am ei chyflawniad trawiadol a'i gwobr anrhydedd. Da iawn, Claire.”
Mae Paul, sy’n Uwch Reolwr Busnes Caffael ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi chwarae rhan hanfodol yn Nhîm Caffael Rheng Flaen Hywel Dda yn ystod pandemig y Coronafeirws gan ddarparu cymorth amhrisiadwy i'r Bwrdd Iechyd yn ystod her Covid-19.
Meddai Paul: “Mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn gyfnod heriol iawn i bawb yn y GIG. Roedd rhan o fy ymateb i COVID-19 yn cynnwys gweithio a chydweithio â llawer o wasanaethau yn Hywel Dda ac yn PCGC i ddatblygu rhwydwaith cyflenwi a dosbarthu lleol. Yn gweithio ar draws sefydliadau, trwy ymdrech tîm, fe wnaethom ddatblygu dulliau newydd a datrysiadau adrodd i ateb gofynion newidiol y GIG.”
“Roedd darparu PPE y gellir ei ail-ddefnyddio i sicrhau adnodd cynaliadwy yn un o'n hamcanion allweddol. Nid oedd methu’n opsiwn, roedd yn rhaid i ni wneud iddo ddigwydd. Rwy'n falch o'r tîm sy'n parhau i fynd y tu hwnt i’r disgwyl bob dydd.”
“Rwy’n ddiolchgar iawn o gael fy nghydnabod ac i dderbyn y wobr hon. Fodd bynnag, gwaith tîm oedd hwn, a hoffwn ei dderbyn ar ran pawb a fu ynghlwm â'r gwaith ar draws PCGC a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.”
O ran gwobr Paul, meddai Jonathan: “Rwy’n falch iawn o glywed bod Paul wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. Mae Paul yn aelod allweddol o Dîm Caffael Rheng Flaen Hywel Dda ac mae wedi cyfrannu'n aruthrol at effeithiolrwydd ein gwasanaeth caffael lleol yn y maes hwn yn ystod y pandemig. Mae Paul wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i ddarparu gwasanaeth ar y rheng flaen ac mae wedi rhoi cymorth caffael hanfodol i'r Bwrdd Iechyd yn ystod her COVID-19. Rwy'n gwybod y bydd Paul yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'n gwasanaeth caffael yn y dyfodol a hoffwn achub ar y cyfle hwn i'w longyfarch ar dderbyn y wobr hon."
Meddai Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwy’n hynod falch bod ymdrechion rhyfeddol Paul i’n cadw’n ddiogel, a’r ffaith ei fod wedi mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir, wedi cael ei gydnabod."
“Mae ei ymrwymiad, ei ymroddiad a’i angerdd at yr hyn y mae’n ei wneud wedi galluogi llawer o bobl i ddarparu gofal i bobl ledled rhanbarth Hywel Dda. Mae'n fraint cael gweithio gydag ef.”