Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Amser i Siarad 2019

Mae Diwrnod Amser i Siarad yn anelu at gael cynifer o bobl â phosibl i siarad am iechyd meddwl. Gall pobl ei chael hi’n anodd siarad am iechyd meddwl. Eleni, felly, mae Amser i Newid yn pwysleisio bod llawer o wahanol ffyrdd o siarad am iechyd meddwl. Ac nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr i siarad.
 
Ers lansio Diwrnod Amser i Siarad yn 2014, mae wedi ysgogi miliynau o sgyrsiau mewn ysgolion, cartrefi, gweithleoedd, yn y cyfryngau ac ar-lein, ac mae wedi ennyn cefnogaeth gan enwogion fel Freddie Flintoff, Stephen Fry a Frankie Bridge.
 
Bydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn ymuno â miloedd o grwpiau, ysgolion ac aelodau o’r cyhoedd i siarad am iechyd meddwl ar Ddiwrnod Amser i Siarad.
 
Bydd un o bob pedwar ohonom yn profi problem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol, ond bydd ar lawer ohonom ormod o ofn i siarad amdano. Efallai bod dechrau sgwrs am iechyd meddwl yn syniad brawychus, ond gall anfon neges destun, gwirio bod ffrind yn iawn neu rannu rhywbeth ar gyfryngau cymdeithasol dorri’r iâ. Am ragor o awgrymiadau, ewch i www.time-to-change.org.uk/timetotalkday
 
Meddai Neil Frow, Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru:
“Rydym ni’n cymryd rhan yn Niwrnod Amser i Siarad am fod iechyd meddwl yn bwnc y dylai pob un ohonom deimlo y gallwn siarad amdano. Gall cael y sgyrsiau hollbwysig hyn wneud gwahaniaeth mawr i lawer o bobl. Po fwyaf rydym yn siarad, po fwyaf o fywydau y gallwn ni eu newid.”
 
Meddai Jo Loughran, Cyfarwyddwr Amser i Newid:
“Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin a gallant effeithio ar unrhyw un ohonom, ond yn rhy aml mae ar bobl ormod o ofn i siarad yn agored am iechyd meddwl am eu bod yn ofni cael eu barnu. Mae sawl gwahanol ffordd o siarad am iechyd meddwl. Ac nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr i siarad. P’un a ydych yn sgwrsio wrth gerdded, neu’n gwrando dros baned o de, gall eich sgwrs wneud byd o wahaniaeth. Pa ffordd bynnag y byddwch yn penderfynu gwneud, siaradwch am iechyd meddwl ar Ddiwrnod Amser i Siarad eleni.”
 
Ffynhonnell: NHS Wales Shared Services Partnership (NWSSP)
Rhannu: