Neidio i'r prif gynnwy

Dyfarnu anrhydedd OBE i Reolwr Gyfarwyddwr PCGC yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin

Llongyfarchiadau i Neil Frow, Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) sydd wedi cael anrhydedd Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) fel rhan o Restr Anrhydeddau Pen-blwydd Ei Fawrhydi’r Brenin.

Mae’r anrhydedd OBE yn urdd sifalri Brydeinig, sy’n gwobrwyo cyfraniadau i’r celfyddydau a gwyddorau, gwaith gydag elusennau a sefydliadau llesiant, a gwasanaeth cyhoeddus y tu allan i’r Gwasanaeth Sifil hefyd.

Cafodd Neil ei gydnabod am ei gyfraniad sylweddol i GIG Cymru ar ôl arwain Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ers ei sefydlu yn 2011. Mae hyn wedi bod yn allweddol wrth ddarparu ystod o wasanaethau proffesiynol, technegol a gweinyddol o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n cefnogi byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru.

Mae Neil yn frwd dros wella ansawdd gwasanaethau iechyd ac mae wedi annog gweithio mewn partneriaeth yn rhagweithiol fel catalydd i wella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir a ffocws ar gwsmeriaid.

 

Neil Frow;

“Mae derbyn yr Anrhydedd hwn gan Ei Fawrhydi Brenin Charles III yn fraint ac yn anrhydedd ac rydw i’n teimlo’n wylaidd. Doeddwn i byth yn disgwyl y byddai cael OBE yn rhywbeth a fyddai’n digwydd i mi. Mae’n fraint cael gweithio gyda phobl wirioneddol ysbrydoledig yn GIG Cymru yn enwedig rheiny o fewn Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sy’n gweithio’n ddiflino yn y cefndir o ddydd i ddydd i gefnogi cyrff iechyd i ddarparu gofal rheng flaen.”  

 

Yr Athro Tracy Myhill OBE Cadeirydd PCGC

“Rwy’n falch iawn o weld bod Neil wedi’i anrhydeddu fel hyn am ei ymroddiad a’i ymrwymiad rhagorol i PCGC a GIG Cymru. Anrhydedd haeddiannol iawn ac ni allai fod wedi digwydd i dderbynnydd mwy gwylaidd a haeddiannol.”   

Rhannu: