Neidio i'r prif gynnwy

'Dyma'r tro cyntaf a'r unig dro i mi wasgu'r stribed panig' – ple Nadolig gan weithwyr brys ar ôl cynnydd mewn ymosodiadau



MAE ymosodiadau ar weithwyr brys Cymru wedi cynyddu, mae data newydd wedi datgelu.

 

Bu fwy na 3,000 o ymosodiadau yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2024, sy'n cynrychioli cynnydd o naw y cant o flwyddyn i flwyddyn.

 

Roedd yr ymosodiadau yn cynnwys cicio, slapio, poeri, brathu, curo pen a cham-drin geiriol, ac roeddent yn amrywio o ymosodiad cyffredin i ymosodiadau difrifol ymlaen llaw yn cynnwys niwed corfforol difrifol.

 

Roedd naw digwyddiad yn ymwneud ag arf.

 

Gyda’r Nadolig yn agosau, mae gweithwyr brys yn gofyn i’r cyhoedd eu trin â pharch.

 

Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae criwiau ambiwlans yno i helpu pobl, ond ni allant ymladd dros fywyd rhywun os ydynt yn ymladd dros eu bywyd eu hunain.

 

“Yn ein hystafell reoli, yn y cyfamser, gallai cam-drin y trinwyr galwadau ar lafar fod yn oedi cyn rhoi cymorth i’r claf.

“Mae’r cyfnod cyn y Nadolig yn golygu bod mwy o bobl allan yn mwynhau’r hwyl, a chydag yfed alcohol daw cynnydd mewn ymosodiadau corfforol a llafar.

 

“Mae’r hyn rydym yn gofyn amdano yn syml – mae gweithwyr brys eisiau eich helpu chi, felly cofiwch eu trin â pharch a gweithiwch gyda ni, nid yn ein herbyn.”


Cipolwg
 

  • Cynyddodd nifer yr ymosodiadau misol cyfartalog o 236 ym mis Gorffennaf 2022 – mis Mehefin 2023 i 256 ym mis Gorffennaf 2023 – mis Mehefin 2024.
  • O'r 3,075 o ymosodiadau rhwng mis Gorffennaf 2023 – mis Mehefin 2024, roedd 71 y cant o'r dioddefwyr yn heddlu, 18 y cant yn staff meddygol a dau y cant yn weithwyr tân ac achub.
  • Yn ystod chwe mis cyntaf 2024, Merthyr Tudful oedd â’r gyfradd uchaf o ymosodiadau, sef 1.43 fesul 1,000 o’r boblogaeth, ac yna Wrecsam (1.42), Blaenau Gwent (1.33), Sir Ddinbych (1.22), Casnewydd (1.22), Torfaen (1.17) , Caerdydd (1.15) a Chaerffili (1.01).
  • Yn yr un cyfnod, roedd canlyniad hysbys i 1,282 o ymosodiadau, gyda hanner ohonynt yn ‘bositif’, e.e. cyhuddwyd y troseddwr, rhoddwyd rhybudd iddo, rhoddwyd gorchymyn cymunedol iddo.
  • Mae'r rhan fwyaf o ymosodiadau yn digwydd ar nos Sadwrn ac yn cyfrif am 10 y cant o'r digwyddiadau yn ystod chwe mis cyntaf 2024.
  • Troseddwyr 26-35 oed sy'n parhau i gyfrif am y gyfran uchaf o droseddu (34 y cant).
  • Roedd yn hysbys bod 335 (24 y cant) o ddigwyddiadau yn gysylltiedig â meddwdod alcohol.

 

Ymosodwyd ar ymarferwyr ambiwlans brys Ian Jones a Gareth Casey gan glaf ym Mhorth Tywyn ym mis Mehefin, cyn iddi droethi yng nghefn eu hambiwlans.

 

Roedd y cydweithwyr o Sgeti yn trin menyw yr adroddwyd ei bod wedi cwympo yn y stryd a tharo ei phen, cyn iddi ddod yn sarhaus yn eiriol ac yn gorfforol.

 

Dywedodd Ian: “Roedd hi eisoes wedi taro Gareth yn ystod ein hasesiad cychwynnol, ond aeth mor ymosodol ar y ffordd i’r ysbyty fel bod yn rhaid i ni stopio’r ambiwlans a’i hatal yn gorfforol, er ei diogelwch hi a’n diogelwch ni.


“Dyma’r tro cyntaf a’r unig dro i mi wasgu’r ‘stribed panig’ yn yr ambiwlans fel bod modd recordio popeth ar deledu cylch cyfyng.

 

“Fe wnaethon ni alw’r heddlu, a gyrhaeddodd o fewn munudau, ond yn y cyfamser, roedd hi’n bygwth troethi yng nghefn yr ambiwlans.

 

“Yn anffodus, fe wnaeth hi wneud iawn am y bygythiad hwnnw.”

Ychwanegodd Ian, cyn-ddiffoddwr tân gyda’r RAF: “Rwy’n gyn-filwr ac mae gen i brofiad o weithio gydag oedolion ag ymddygiad heriol, ond mae’n dal yn siomedig bob tro rydyn ni’n cael ein hunain yn y sefyllfaoedd hyn.

 

“A gawson ni ein clwyfo'n farwol? Naddo, ond y pwynt yw ein bod ni yno i helpu rhywun yn eu hawr o angen, a dyna sut y cawsom ein had-dalu - ymosodiad yw ymosodiad.

 

“Roedden ni’n fwy rhwystredig gan y ffaith bod yn rhaid i’r ambiwlans gael ei dynnu allan o wasanaeth i gael ei lanhau’n drylwyr, a oedd yn golygu nad oedd ar gael i gleifion eraill y gallai eu cyflwr fod yn fywyd neu’n farwolaeth.”

 

Dywedodd Gareth, a arferai weithio ym maes diogelwch cyn ymuno â'r gwasanaeth ambiwlans, ei fod wedi dioddef ymosodiad mwy o weithiau yn y swydd hon nag yn ei swydd flaenorol.

“Roedd y claf i’w weld yn iawn gyda ni i ddechrau, ond roedd fel fflic o switsh,” meddai Gareth.

 

“Wnaeth y dyrnod ddim brifo – ei bygythiadau i ladd wnaeth fy syfrdanu’n fwy.

 

“Yn anffodus, nid hwn oedd fy ymosodiad cyntaf yn y gwaith.

 

“Unwaith, ces i fy mrathu a bu’n rhaid i mi gael profion gwaed am chwe mis wedyn i wneud yn siŵr nad oeddwn wedi dal HIV neu Hepatitis.

 

“Fe effiethiodd arna i yn feddyliol, heb sôn am y straen a roddodd ar fy mherthynas.

 

“Yn aml rwy’n dod adref a bydd fy machgen naw oed yn gofyn pam fod gennai gleisiau dros fy nghorff i gyd.

 

“Fel gweithwyr brys, fe ddylen ni allu mynd i’r gwaith a dod adref yn ddianaf.

 

“Rydw i wedi dod i’w ddisgwyl nawr, ond nid yw’n golygu ei fod yn iawn.”


Fis diwethaf, cafodd Michelle Richards, o Deras y Rheilffordd, Llanelli, ei dedfrydu i dri mis yn y carchar wedi’i ohirio am 18 mis ar ôl pledio’n euog yn flaenorol i ddau gyhuddiad o ymosod trwy guro gweithiwr brys ac i ddifrod troseddol.

 

Lansiwyd yr ymgyrch Gyda Ni, Nid yn ein Herbyn ym mis Mai 2021 gan y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yng Nghymru i geisio lleihau nifer yr ymosodiadau ar weithwyr brys.  


Dywedodd Mark Hobrough, Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Gwent: “Ni ddylai neb ddioddef ymosodiad o unrhyw fath, ac mae’n destun pryder bod rhai pobl yn credu bod hyn yn ffordd briodol o ymddwyn tuag at berson arall.

 

“Bydd ein swyddogion, ynghyd â’n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys, yn aml yn delio â phobl ar adegau anodd yn eu bywydau, ond nid yw hynny’n cyfiawnhau’r ymddygiad ymosodol, bygythiol a threisgar y maen nhw’n ei brofi’n aml.

 

“Byddwn yn cefnogi unrhyw swyddog neu weithiwr gwasanaeth brys sydd wedi profi cam-drin neu drais tra hefyd yn cymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol.”


Ychwanegodd Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru: “Mae effaith unrhyw fath o ymosodiad, yn eiriol neu’n gorfforol, yn hynod niweidiol i’n gweithwyr brys GIG sy’n gweithio’n ddiflino i ofalu a thrin y rhai sydd â’r angen mwyaf.

 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â GIG Cymru, yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron trwy Gydweithrediaeth Gwrth-drais GIG Cymru i sicrhau ein bod yn gwneud popeth i atal digwyddiadau rhag digwydd, ac i gefnogi unrhyw staff sy’n profi bygythiadau a thrais.”

 

Addunedwch eich cefnogaeth i'r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn neu #WithUsNotAgainstUs,
 

Rhannu: