Neidio i'r prif gynnwy

GIG Cymru yn cyflwyno platfform cenedlaethol i roi darlun unigryw o adborth defnyddwyr gwasanaeth am y tro cyntaf

 

Mae pob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth yn GIG Cymru wedi rhoi system Civica Experience Wales ar waith i gasglu adborth amser real gan ddefnyddwyr ei wasanaethau.

 

Mae platfform Civica Experience Wales wedi’i gyflwyno fel rhan o raglen System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru, dan arweiniad Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC). Meddai Jonathan Webb, Pennaeth Diogelwch a Dysgu Gwasanaeth Cronfa Risg Cymru PCGC:

“Mae cynnyrch Civica Experience Wales yn rhoi adborth amser real gan ddefnyddwyr gwasanaeth y gellir ei goladu a’i ddadansoddi’n gyflym ac yn effeithiol. Drwy gyflwyno platfform cyffredin, mae gan gyrff iechyd bellach offeryn i gasglu adborth gan gleifion, perthnasau a defnyddwyr eraill gwasanaethau iechyd a gofal ar draws GIG Cymru.”

 

Gyda phob corff iechyd yn defnyddio un system, gall GIG Cymru gefnogi adolygiadau o wasanaethau ac ansawdd yn well wrth sicrhau dull gweithredu cenedlaethol cyson. Dywedodd Angela Hughes, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Profiad Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chadeirydd y Grŵp Gwrando a Dysgu o Adborth ar gyfer Cymru Gyfan:

“Mae platfform Civica Experience Wales yn cynnig cyfle cyffrous i bob corff iechyd gasglu adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau gyda system hawdd ei defnyddio. Bydd y data a’r mewnwelediad a ddarperir gan y system yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ar draws GIG Cymru yn ei gyfanrwydd.”

 

Mae'r system yn gweithredu drwy ddatblygu a chyflwyno arolygon i'w cwblhau gan ddefnyddwyr gwasanaethau ac mae'n defnyddio amrywiaeth o ddulliau cysylltu, gan gynnwys negeseuon testun SMS, adnabod llais rhyngweithiol, offer ar y we ac ap pwrpasol y gellir ei osod ar ddyfeisiau o fewn y sefydliad. Mae'r platfform yn cynnwys offeryn dadansoddi data pwerus sy'n galluogi rheolwyr gwasanaeth iechyd i ddeall gwybodaeth fanwl a dderbynnir gan ddefnyddwyr gwasanaeth, sy'n ymgorffori'r gallu i adnabod y sentiment y tu ôl i ymateb.

Mae GIG Cymru wedi sefydlu nifer o staff fel Arweinwyr Systemau Lleol, i weithredu’r platfform o fewn sefydliad a darparu cymorth i reolwyr gwasanaethau. Eglurodd Marcia Buchanan, Rheolwr Profiad y Claf ac Arweinydd System Leol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

“Mae’r dadansoddiad o sentiment o’r ymatebion yn galluogi i wybodaeth gyfoethog iawn gael ei thynnu o’r data sydd wedi’i fewnbynnu gan ddefnyddwyr gwasanaeth ac mae hyn yn fy ngalluogi i roi mewnwelediad gwerthfawr i’n timau arwain gwasanaethau o brofiadau cleifion a pherthnasau. Mae’r graffiau a’r offer data yn hawdd i reolwyr gael gafael arnynt heb fawr o hyfforddiant.”

 

Mae tîm pwrpasol o Civica wedi cael ei roi ynghyd i weithio gyda sefydliadau yn GIG Cymru. Ychwanegodd Steve Brain, Cyfarwyddwr Gweithredol, Iechyd a Gofal yn Civica,

“Mae adborth cywir a manwl gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn hanfodol i wella gwasanaethau ac adeiladu cyfleusterau iechyd a gofal arloesol. Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi GIG Cymru i fabwysiadu’r offeryn hwn ar draws ei holl wasanaethau. Bydd ein cynnyrch yn helpu sefydliadau i ddeall adborth amser real, blaenoriaethu meysydd risg ac ysgogi gwelliannau i wasanaethau.” 

 

 

Ynglŷn â GIG Cymru

GIG Cymru yw Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a chaiff ei ariannu a’i lywodraethu gan Lywodraeth Cymru, gan ddarparu gofal iechyd i’r 3.5 miliwn o bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mae'n cyflogi dros 80,000 o staff.

Darperir gofal iechyd yng Nghymru drwy amrywiaeth o ddarparwyr, yn amrywio o Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG i fferyllfeydd cymunedol, practisiau meddygon teulu ac optegwyr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Iechyd yng Nghymru | Ein Gwasanaethau

 

Ynglŷn â Civica Experience

Bob dydd, mae Civica yn dadansoddi miloedd o brofiadau cleifion ar gyfer sefydliadau gofal iechyd yn y DU ac Awstralia, gan ddarparu dolen adborth barhaus rhwng y gweithiwr gofal iechyd cleifion proffesiynol. Mae Civica Experience yn helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gasglu a dadansoddi data meintiol ac ansoddol i'w droi'n fewnwelediadau gwerthfawr.

Rhannu: