Neidio i'r prif gynnwy

GIG Cymru yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Diogelwch Cleifion HSJ 2021

Mae’n gyffrous inni allu dweud bod GIG Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Diogelwch Cleifion HSJ eleni, am ei System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru (OfWCMS). Roedd y ddau gategori, sef Arloesi Diogelwch Cleifion y Flwyddyn a Llywodraethu Clinigol a Rheoli Risg mewn Diogelwch Cleifion, yn cydnabod cyfraniad rhagorol prosiect OfWCMS at ofal iechyd, uchelgais, ysbryd gweledigaethol a'r effaith amlwg y mae wedi'i chael ar brofiadau cleifion a staff.

Mae GIG Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer yn erbyn cannoedd o ymgeiswyr, sy’n dangos ymroddiad yr holl Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau a chyrff iechyd yng Nghymru i ddiogelwch cleifion drwy gydol un o'r blynyddoedd mwyaf heriol ym maes gofal iechyd.

“Rydyn ni ar ben ein digon i fod ar y rhestr fer am ddwy wobr yng Ngwobrau Diogelwch Cleifion HSJ eleni” meddai Jonathan Webb, Pennaeth Diogelwch a Dysgu ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. “Mae'r prosiect wedi bod yn ymdrech wirioneddol gydweithredol, a hynny gan yr holl ddarparwyr iechyd ledled Cymru, sy’n tynnu sylw at eu hymrwymiad i ddysgu a darparu gofal mwy diogel i bawb ledled y wlad.”

Llongyfarchiadau i'r holl Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau a chyrff iechyd yng Nghymru sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect cydweithredol ac arloesol hwn. Cyhoeddir enillwyr Gwobrau Diogelwch Cleifion HSJ yn ystod digwyddiad y Patient Safety Congress, a gynhelir ar 20–21 Medi ym Manceinion. 

 

Beth yw System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru?

Ysbrydolwyd System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru gan Adroddiad Defnyddio Cwynion yn Rhodd, sef adolygiad annibynnol a arweiniwyd gan Keith Evans a ystyriodd y ffordd y mae GIG Cymru yn delio â phryderon. Yr uchelgais yw gwella diogelwch cleifion a sicrhau bod cleifion a'u teuluoedd yn cael profiad rhagorol, cyson, gyda phrosesau ac ymatebion tebyg ni waeth gyda phwy y byddant yn ymwneud yn GIG Cymru – tua 90,000 o staff.

Fel rhan o'r prosiect, mae GIG Cymru yn dwyn ynghyd systemau gwahanol ac yn defnyddio DatixCloudIQ (DCIQ) fel un system ar gyfer trin digwyddiadau, cwynion, hawliadau, gwneud iawn, cofrestrau risg, atgyfeiriadau diogelu a chofnodion adolygu marwolaethau yn gyson, gyda data unedig ar gyfer Cymru gyfan, gan ei gwneud yn bosibl dadansoddi gwybodaeth ar draws gwahanol fathau o ddata mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr. Mae'r prosiect yn safoni prosesau, yn hwyluso dysgu cenedlaethol ac yn creu llif gwaith diogelwch cleifion di-dor ar gyfer Cymru gyfan.

Fel rhan o ddull mwy rhagweithiol tuag at ddiogelwch cleifion, gellir rhannu profiadau ar draws yr holl sefydliadau gofal sy'n rhan o GIG Cymru fel y gall pobl ddysgu oddi wrth ei gilydd. Bellach, dim ond un system sydd ar gyfer yr holl wybodaeth sy'n ymwneud â diogelwch cleifion. Golyga hyn nad oes angen cael mynediad at systemau eraill i gael gwybodaeth, nid oes angen mewnbynnu gwybodaeth eto, ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei cholli a dim ond un fersiwn o'r gwir sydd. Mae'r dull hwn â ffocws yn darparu gwell dealltwriaeth o'r holl ddata diogelwch, gan alluogi gwelliannau a dysgu ar bob lefel, a fydd yn helpu yn y pen draw i gadw cleifion a gweithwyr iechyd yn ddiogel.

Mae'r System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru yn safoni dulliau o ddiogelwch cleifion ac yn rhannu’r hyn a  ddysgir, tueddiadau critigol, mewnwelediadau ac argymhellion ar draws yr holl Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau a chyrff iechyd eraill yng Nghymru, gan gynnwys practisiau gofal sylfaenol a phractisiau deintyddol ac optometreg. Mae'r prosiect yn gwella’r ffordd yr ydym yn cydweithredu, yn dysgu ar y cyd ac yn gwella diogelwch cleifion.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru a sut mae RLDatix yn cefnogi'r prosiect.

Rhannu: