Neidio i'r prif gynnwy

Gofynion newydd i'r GIG wella gwasanaethau ar gyfer cleifion a staff

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, heddiw bod dwy ddyletswydd newydd wedi dod i rym er mwyn gwella gwasanaethau, gonestrwydd a thryloywder yn y GIG

Daeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 i rym ar 1 Ebrill 2023 ac mae’n gosod dwy ddyletswydd newydd ar sefydliadau’r GIG – y ddyletswydd gonestrwydd a’r ddyletswydd ansawdd.

Gofyniad cyfreithiol yw’r ddyletswydd gonestrwydd i holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru fod yn agored a thryloyw â phobl os oes rhywbeth yn mynd o’i le a’u bod yn cael eu niweidio wrth gael gofal iechyd. O dan y ddyletswydd, mae’n rhaid i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG ymddiheuro a chefnogi pobl wrth i ymchwiliad i’r digwyddiad gael ei gynnal. Yn bwysicaf, rhaid iddynt hefyd sicrhau y cynhelir ymchwiliadau i ddigwyddiadau drwy’r broses Gweithio i Wella a bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu er mwyn helpu i osgoi digwyddiadau tebyg rhag digwydd eto.

Bydd y ddyletswydd ansawdd yn berthnasol ar gyfer holl gyrff y GIG a Gweinidogion Cymru er mwyn sicrhau, wrth iddynt wneud penderfyniadau, eu bod yn ystyried yn weithredol welliannau i ansawdd gwasanaethau iechyd a chanlyniadau gwell i bobl Cymru. Mae’r ddyletswydd hefyd yn cynnwys safonau ansawdd iechyd a gofal newydd.  

Mae corff llais y dinesydd newydd hefyd yn cael ei gyflwyno. Bydd yn cryfhau cynrychiolaeth y bobl mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan rymuso pobl i lywio gwasanaethau a dylanwadu arnynt. Bydd Llais, corff cenedlaethol annibynnol newydd, yn disodli saith cyngor iechyd cymuned Cymru ac yn adeiladu ar eu gwaith. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â’r GIG, awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol i roi cyfle i bobl ledled Cymru fynegi eu barn o ran cynllunio a darparu gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan sicrhau bod safbwyntiau’r bobl yn cael eu cynrychioli.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae pawb yn y GIG yn gweithio’n galed i ddarparu gofal diogel a thosturiol o ansawdd uchel i bawb. Fodd bynnag, hyd yn oed pan fyddwn yn gwneud ein gorau, weithiau gall pobl brofi niwed. Bydd y mesurau newydd hyn yn sicrhau bod ansawdd, diogelwch a thryloywder wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud, gan helpu i ddatblygu gwelliannau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn y pen draw, arwain at ganlyniadau gwell i bawb.”

Dywedodd Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddorau Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:

“Mae staff ar draws y GIG yng Nghymru bob amser yn gweithio tuag at ddarparu’r gofal a’r triniaethau gorau posibl. Fodd bynnag, ceir achosion pan mae cleifion yn cael niwed o ganlyniad i’r gofal / triniaethau a ddarperir. Bydd y dyletswyddau hyn yn helpu i ddatblygu diwylliant o ymddiriedaeth a gonestrwydd ymhellach, fel y gall pobl deimlo’n hyderus yn y gofal y maen nhw’n ei gael a bod yn sicr y caiff gwelliannau eu gwneud i atal niwed o’r fath rhag digwydd eto. Mae’n bwysig bod pawb sy’n gweithio yn y GIG, a’r bobl sy’n cael gofal, yn parhau i adrodd ar unrhyw ddigwyddiadau neu niwed sy’n digwydd fel y gellir ymchwilio i’r rhain yn agored, gan wneud gwelliannau cyn gynted â phosibl.”

Rhannu: