Neidio i'r prif gynnwy

Golchdy Green Vale yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed

Ar 9 Hydref 2021 gwnaeth Golchdy Green Vale gyrraedd 30 mlynedd o weithrediad parhaus yn swyddogol.

Wedi’i leoli ar safle Ysbyty newydd Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân, De-ddwyrain Cymru, agorwyd y golchdy’n swyddogol yn 1991 gan Mr Geoffrey Canning, Cadeirydd Cyngor Hyfforddi a Menter Gwent. Dechreuodd ei fywyd dan reolaeth Awdurdod Gwasanaethau Cyffredin Iechyd Cymru cyn symud at Ymddiriedolaeth GIG Glan Hafren ac yna Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent ar 1 Ebrill 1999.

Arhosodd Green Vale o dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth ac yna Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan nes trosglwyddo i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ar 1 Ebrill 2021.

Yn ystod ei 30 mlynedd, mae'r golchdy wedi prosesu dros 330 miliwn o eitemau o liain sy'n cynnwys cynfasau gwely, casys gobennydd, tywelion, gynau llawdriniaeth a siwtiau sgrybs ac wedi defnyddio'r hyn sy'n cyfateb i 374 o byllau nofio maint Olympaidd yn y broses olchi.

Mae cyflenwad o liain glân sydd ar gael yn rhwydd yn hanfodol i ddarparu gofal diogel i gleifion. Y golchdy yw un o'r ychydig wasanaethau sydd â chysylltiad â'r claf trwy gydol ei daith yn yr ysbyty. O wisgo gŵn llawdriniaeth cyn triniaeth feddygol i dreulio noson mewn gwely ysbyty, mae'r golchdy yn wasanaeth hanfodol ond yn un sy’n cael ei anghofio yn aml yn GIG Cymru.

Dim ond un aelod o staff sy’n dal i fod yn Green Vale o'r diwrnod agoriadol ym 1991, sef Tony Cheadle, Goruchwyliwr Golchdy, a ddechreuodd ei yrfa yng Ngolchdy St Woolos ar 14 Chwefror 1983 cyn trosglwyddo i Green Vale pan agorodd ym 1991.

Mae Tony wedi gweld llawer o newidiadau dros y blynyddoedd, ond mae’n edrych ymlaen yn arbennig at weld y buddsoddiad a’r newidiadau yn Green Vale fel rhan o Raglen Drawsnewid Golchdy PCGC.

Fel rhan o yrfa 38 mlynedd Tony dyfarnwyd tancard coffa arbennig iddo a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Caffael a’r Gwasanaeth Negesydd Iechyd, Jonathan Irvine. Bu staff y golchdy hefyd yn dathlu pen-blwydd Green Vale gydag aelodau eraill o Uwch Grŵp Rheoli PCGC (yn y llun) gan gynnwys Neil Frow, y Rheolwr Gyfarwyddwr; Anthony Hayward, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Golchdy a Gweithrediad; Peter White, Rheolwr Gwasanaethau Golchdy, Ian Rose, Pennaeth Swyddfa Rheoli Prosiect PCGC ac Alwyn Hockin, Cynullydd Unsain.

Mae cynlluniau cyffrous ar gyfer y gwasanaeth golchdy a fydd yn cael eu cychwyn dros y 18 mis nesaf. Bydd y safle'n cael ei adnewyddu a'i uwchraddio gydag offer a pheiriannau newydd i ddarparu gwasanaeth lliain modern i'r GIG yn Ne-ddwyrain Cymru. I 30 mlynedd nesaf Green Vale!

Ar ben-blwydd Golchdy Green Vale, dywedodd Anthony Hayward, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Golchdy a Gweithrediadau; “Ar ôl dechrau fy ngyrfa yng Ngolchdy St Woolos 35 mlynedd yn ôl fel prentis Trydanwr, mae'n rhoi balchder mawr i mi fod yn rhan o dîm y golchdy eto yn enwedig ar yr adeg hon o drawsnewid gwasanaeth. Dylen ni fod yn falch iawn o’r cyflawniadau dros y 30 mlynedd diwethaf ac edrych i’r dyfodol gyda chryn gyffro.”

Dywedodd y Rheolwr Golchdy, Peter White, “Rwy’n falch iawn o’r tîm yma yn Green Vale sy’n darparu gwasanaeth hanfodol i’r GIG yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae dyfodol disglair iawn i'r golchdy gyda buddsoddiad sylweddol ar y gweill fel rhan o'r Rhaglen Trawsnewid Golchdy. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld adnewyddu'r golchdy a'r uwchraddiadau y bwriedir iddynt symud Green Vale ymlaen am y 30 mlynedd nesaf.”

Rhannu: