Mae Gwasanaethau Caffael PCGC a’r Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol (SMTL) wedi cael eu cydnabod yn ffurfiol am y gwaith rhagorol a wnaed gan unigolion a thimau ledled GIG Cymru fel rhan o'r ymateb i bandemig COVID-19.
Mae'r gwaith diflino, yr arloesedd, y cydweithredu helaeth a'r bartneriaeth rhwng Gwasanaethau Caffael a SMTL wedi golygu bod y gwasanaethau wedi bod ar y rhestr fer 14 gwaith ar draws 3 chategori yng Ngwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth, sy’n anhygoel. Dyma gangen Cymru o Wobrau Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus GO Excellence – cyflawniad rhagorol.
Mae Gwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth yn dathlu'r gwaith diflino a'r ymdrech sy'n sail i ddarparu gwasanaethau critigol; yn arddangos y dyfeisgarwch sy'n sicrhau bod gwariant cyhoeddus yn creu budd cymdeithasol ac economaidd parhaol; ac yn nodi'r gwaith a wneir ar draws cadwyni caffael a chyflenwi: boed hynny i frwydro yn erbyn COVID-19 neu fodloni nifer o ddisgwyliadau eraill dinasyddion Cymru.
Dywedodd Jonathan Irvine, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Caffael PCGC: “Rwy’n falch iawn bod y cyfraniad sylweddol a wnaed gan Wasanaethau Caffael PCGC a SMTL mewn ymateb i bandemig COVID-19 wedi cael ei gydnabod eto ar draws cynifer o feysydd gweithredu yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae'r ymateb gan fy is-adran wedi bod yn drawiadol ac mae'n dangos yn glir fuddion cael un Gwasanaeth Caffael unedol sy'n gweithredu ar lefel genedlaethol a lleol ar gyfer cyrchu, caffael gweithredol rheng flaen a logisteg. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i fynegi fy niolch a’m gwerthfawrogiad eto am yr ymdrechion a’r aberthau a wnaed gan gydweithwyr ar draws yr is-adran fel rhan o’r ymdrech genedlaethol i Ddiogelu Cymru.”
Dywedodd Peter Phillips, Cyfarwyddwr y Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol:
“Rwyf wrth fy modd bod SMTL a’n cydweithwyr Caffael wedi cael eu henwebu ar gyfer y gwobrau uchel eu parch hyn. Mae'r synergedd sy’n bodoli yn PCGC rhwng Gwasanaethau Caffael a SMTL yn hirsefydlog, ond mae'r pandemig wedi golygu bod yr hyn a wneir fel arfer yn swyddogaethau swyddfa gefn wedi'i osod ar lwyfan cenedlaethol. Trwy weithio gyda gweddill y DU, mae’r arbenigedd sy'n bodoli yng Nghymru o ran caffael ar sail tystiolaeth wedi cael ei gydnabod. Mae wedi bod yn dda iawn gwybod bod ein staff wedi gallu cefnogi staff rheng flaen GIG Cymru dros y 12 mis diwethaf."
Mae Gwasanaethau Caffael a SMTL wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau Gwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth canlynol:
Tîm y Flwyddyn
Gwobr ar gyfer Ymateb Eithriadol i COVID-19 – Sefydliadau'r GIG
Gwobr ar gyfer Ymateb Eithriadol i COVID-19 – Sefydliadau Eraill
Cynhelir seremoni Gwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth ar-lein ar 29 Ebrill am 1pm. Gallwch ei mynychu yn rhad ac am ddim a bydd Sian Lloyd yn ei chyflwyno.
Dilynwch y ddolen hon i archebu’ch lle yn y digwyddiad rhithwir hwn.