Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Caffael a'r Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau GO

Mae Gwasanaethau Caffael a Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol PCGC wedi cael eu cydnabod yn ffurfiol am y gwaith rhagorol a wnaed gan unigolion a thimau ledled GIG Cymru fel rhan o'r ymateb i bandemig COVID-19.

Mae'r gwaith diflino, yr arloesedd, y cydweithredu helaeth a'r bartneriaeth wedi golygu bod y gwasanaethau wedi ennill neu wedi derbyn Canmoliaeth Uchel mewn sawl categori gan Wobrau GO Cymru, sef cangen Cymru o Wobrau Rhagoriaeth ym maes Caffael Cyhoeddus GO, yn eu seremoni wobrwyo genedlaethol a gynhaliwyd 29 Ebrill 2021.

Mae Gwobrau GO Cymru yn dathlu'r gwaith diflino a'r ymdrech sy'n sail i ddarparu gwasanaethau critigol; yn arddangos y dyfeisgarwch sy'n sicrhau bod gwariant cyhoeddus yn creu budd cymdeithasol ac economaidd parhaol; ac yn nodi'r gwaith a wneir ar draws y maes caffael a chadwyni cyflenwi caffael: p'un ai i frwydro yn erbyn COVID-19 neu i gyflawni nifer o ddisgwyliadau eraill dinasyddion Cymru.

Mae'r gydnabyddiaeth am y gwaith rhagorol a wnaed fel a ganlyn:

 

Gwobr ar gyfer Ymateb Eithriadol i COVID-19 Sefydliadau eraill:

Enillydd: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, y Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol, Llywodraeth Cymru, Diwydiant Cymru, y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a’r Hwb Gwyddorau Bywyd

 

COVID19 Ymateb Eithriadol:

Canmoliaeth Uchel – Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth

 

Tîm y Flwyddyn:

Enillydd – Tîm Caffael Lleol Gwasanaethau Caffael – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Canmoliaeth Uchel – Tîm Caffael Lleol Gwasanaethau Caffael – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

 

Dywedodd Jonathan Irvine, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Caffael PCGC: “Unwaith eto, rwy’n falch iawn o allu llongyfarch fy nghydweithwyr yng Ngwasanaethau Caffael am y gydnabyddiaeth haeddiannol y maent wedi’i chael. Nid yn unig am eu hymateb gwych i bandemig COVID 19 ond fel rhan o’n gweithgarwch “busnes fel arfer” parhaus sydd, ac a fydd, yn parhau i gefnogi'r GIG yn y cyfnod adfer. Mae ehangder y gydnabyddiaeth ar draws gweithrediadau cyrchu canolog, ar y rheng flaen ac ym maes logisteg wir yn dangos y cryfder sy'n bodoli yn ein rhanbarth. Gaf i achub ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i bawb sydd wedi derbyn gwobrau ac i'm holl gydweithwyr am eu hymdrechion parhaus ar draws y gwasanaeth”.

 

Dywedodd Peter Phillips, Cyfarwyddwr y Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol:

"Gwnaeth y cyflymder rhyfeddol y daeth Tîm Peirianneg Gofynion Cyfarpar Hanfodol (CERET) â phob un o’r chwaraewyr allweddol ynghyd alluogi Cymru i ymateb yn effeithiol ac yn gyflym i'r pwysau a oedd yn ymwneud â Chyfarpar Diogelu Personol pan oedd y pandemig ar ei anterth. Rwy'n hynod falch bod staff y Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol wedi gallu chwarae rhan mor allweddol wrth sicrhau bod gan staff GIG Cymru fynediad at Gyfarpar Diogelu Personol diogel ac effeithiol, yn ogystal â gallu cefnogi diwydiant lleol."

"Rwy'n siŵr ein bod wedi meithrin perthnasoedd newydd gyda'n cyd-enillwyr a fydd yn fantais fawr i ni ar gyfer y dyfodol."

 

Tony Chatfield – Pennaeth Cadwyn Gyflenwi GIG Cymru, Logisteg a Thrafnidiaeth:

“Gwnaeth y Gwobrau GO gydnabod ymrwymiad a dyfalbarhad anhygoel ein staff yn eu hymateb i bandemig COVID-19.  Mae gwaith caled ac ymroddiad ein holl staff yn aml yn mynd heb gydnabyddiaeth. Mae eu cyflawniadau yn yr amgylchiadau rhyfeddol hyn wedi bod yn anhygoel ac mae'r gydnabyddiaeth o wobr Gwobrau GO yn helpu i gydnabod y cyflawniad hwnnw."

 

"Mae'r hyn y mae ein staff wedi'i gyflawni yn anhygoel a thu hwnt i'r disgwyl, a does dim amheuaeth ei fod wedi helpu i achub llawer o fywydau ledled Cymru."

Rhannu: