Bu timau Gwasanaethau Caffael PCGC yn llwyddiannus yn ddiweddar yn seremoni Gwobrau GO Cymru a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 5 Tachwedd yng Nghaerdydd. Enillodd y timau wobrau Canmoliaeth Uchel ar gyfer dau gategori, “Tîm Caffael y Flwyddyn” a “Menter Caffael Cydweithredol”. Yn ogystal â hyn, enillodd Uned Gwerth Meddyginiaethau PCGC wobr Canmoliaeth Uchel arall am y “Darpariaeth Gaffael Orau”.
Bu llwyddiant pellach i Wasanaethau Caffael PCGC yng Ngwobrau Cenedlaethol HCSA yn Telford ddydd Iau, 14 Tachwedd. Enillodd yr Adran wobr gyffredinol “Tîm Caffael y Flwyddyn” ac enillodd timau unigol wobrau Canmoliaeth Uchel yn y categorïau “Rhagoriaeth Cynaliadwyedd a Gwerth Cymdeithasol” a “Caffael Clinigol mewn Partneriaeth”.
Wrth longyfarch ei gydweithwyr ar eu llwyddiant, dywedodd Jonathan Irvine, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Caffael PCGC, “Rwyf wrth fy modd bod gwaith caled ac ymrwymiad ein staff ar draws yr Is-adran wedi cael ei gydnabod drwy’r gwobrau hyn ar lefel genedlaethol yng Nghymru a’r DU yn ehangach. Mae Gwasanaethau Caffael PCGC yn parhau i gyflawni ar gyfer GIG Cymru ac mae ymroddiad ein staff ar flaen y gad yn yr ymdrechion hyn – da iawn i bawb!”.