Yn ddiweddar, mae Gwasanaethau Caffael PCGC wedi cynnal eu Hardystiad Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid (CSE) yn llwyddiannus yn ystod ail gam yr Adolygiad Blynyddol.
Mae'r Wobr CSE yn farc ansawdd Llywodraeth y DU sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddefnyddwyr gwasanaethau trwy annog sefydliadau i ganolbwyntio ar eu hanghenion a'u dewisiadau. Er mwyn i sefydliad gael ei gydnabod fel un sy'n cyflawni Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid, rhaid ei asesu'n llwyddiannus yn erbyn meini prawf llym.
Fel rhan o'u hasesiad, roedd y Gwasanaethau Caffael wedi cynnal 5 maes ar lefel 'Compliance Plus' ac ychwanegwyd 2 faes newydd oherwydd ymrwymiad rhagorol y gwasanaethau i wasanaethau cwsmeriaid a thalu sylw rhagorol i fanylion.
Roedd sylwadau'r archwilydd CSE swyddogol yn gadarnhaol iawn ac yn cynnwys:
"Mae nifer o enghreifftiau o welliannau wedi'u gwneud o ganlyniad i ddysgu o arferion gorau, yn enwedig o'r tu allan i'r sefydliad. Enghraifft hynod arloesol ac felly sy'n deilwng o ‘Compliance Plus’ yw system SganioErDioglewch Cymru a fydd yn golygu mai Cymru fydd y wlad gyntaf i ddefnyddio'r system codio bar yn llawn. "
"Gwnaed gwaith sylweddol fel rhan o'r strategaeth gweithio ystwyth a datblygu pecynnau cymorth i sicrhau bod trefniadau llywodraethu gwybodaeth cadarn ar waith. Dosbarthwyd gohebiaeth gan y Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth i'r holl staff mewn perthynas â gweithio gartref a chyfrinachedd. Ychwanegwyd adran newydd at yr hyfforddiant i friffio staff ar bwysigrwydd sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal wrth anfon e-byst, defnyddio gwasanaethau cwmwl, SharePoint a chludo gliniaduron/gwaith papur rhwng y cartref a'r swyddfa a'r neges bod "torri'r rheolau yn dal i fod yn doriad waeth beth fo'r lleoliad". Gan fod y gwaith hyn yn fwy nag a welwyd mewn sefydliadau eraill, ystyrir hyn yn ‘Compliance Plus’."
Roedd sylwadau pellach o'r adroddiad archwilio dilynol yn cynnwys:
"Cwmpas Adolygiad Blynyddol 2 (AR2) o Ragoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid yw swyddogaeth Gwasanaethau Caffael PCGC.A Dros y 12 mis diwethaf bu ailstrwythuro gwasanaethau ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddatblygiadau arloesol. Mae hyn i gyd wedi digwydd yng nghyd-destun yr ymateb i Covid-19 gan gynnwys darparu cefnogaeth trawiadol yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng cenedlaethol."
"Mae ymrwymiad corfforaethol cryf o hyd i roi'r cwsmer wrth wraidd darparu gwasanaethau ac mae arweinwyr yn cefnogi hyn ac yn eiriol dros gwsmeriaid. Canfuwyd tystiolaeth ragorol mewn perthynas ag ymrwymiad staff lefel uwch i lesiant staff ac o ganlyniad, caiff yr ymagwedd hon ei mabwysiadu gan yr holl staff wrth ymdrin â chwsmeriaid. O ganlyniad, mae'r elfen hon yn parhau i fod yn ‘Compliance Plus’."