Mae Timau Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth Gwasanaethau Caffael PCGC wedi bod ar flaen y gad o ran cefnogi GIG Cymru dros y deuddeg mis diwethaf gan sicrhau bod brechiadau Covid-19 yn cael eu dosbarthu'n llwyddiannus ledled y wlad.
Cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020 y byddai tri opsiwn brechlyn Covid-19 hyfyw ar gael i'r cyhoedd. O ganlyniad, dechreuodd Timau Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth PCGC y broses o gynllunio a pharatoi ar gyfer dosbarthu'r brechlynnau a'r defnyddiau traul cysylltiedig, ledled Cymru. Yn dilyn hynny, ym mis Rhagfyr 2020, Cymru oedd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ddechrau diogelu pobl rhag coronafeirws.
Mae’r brechlynnau wedi cael eu dosbarthu i dros 300 lleoliad bob wythnos yng Nghymru, sy’n cwmpasu dros 8,000 milltir sgwâr. Mae hyn yn cynnwys cynnal y gadwyn oer 'o’r dechrau i’r diwedd', casglu, pacio a dosbarthu unrhyw ddefnyddiau traul cysylltiedig ar deithiau a gynlluniwyd ymlaen llaw ac o dan amgylchiadau 'ad hoc'.
Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd ac Arweinwyr Fferylliaeth, mae hyn hefyd wedi arwain at ddatblygu archebion brechlynnau a defnyddiau traul electronig a systemau rheoli data cadarn.
Yn ogystal â sicrhau nad yw'r pandemig yn effeithio ar ddarpariaethau 'busnes fel arfer', cyflwynwyd nifer o wasanaethau ychwanegol sy'n canolbwyntio ar gleifion, gan gynnwys dosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol a Phrofion Llif Unffordd, casglu sbesimenau Covid-19, dosbarthu Meddyginiaethau Critigol, a chefnogi'r Llwybr Gofal Lliniarol Diwedd Oes.
Tony Chatfield, Pennaeth y Gadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth;
“Mae'r gofynion a roddwyd ar ein gwasanaeth gan yr achosion o COVID-19 wedi bod yn sylweddol ac mae ein timau wedi mynd, ac yn parhau i fynd, ymhell y tu hwnt i'r ail filltir.
Mae'r data ar eu pen eu hunain yn tynnu sylw at yr heriau a'r cyflawniadau logistaidd yr ydym wedi'u profi hyd yn hyn. Heb os, mae ein cyfranogiad wedi galluogi'r rhaglen frechu i helpu i ddiogelu poblogaeth Cymru rhag coronafeirws. Hoffwn estyn fy niolch a'm gwerthfawrogiad am eich holl ymdrechion parhaus.”
Gildas Griffiths, Dirprwy Bennaeth Logisteg a Thrafnidiaeth Glinigol, Y Gwasanaeth Negesydd Iechyd;
“Rhaid cydnabod, ni fyddai llwyddiant y rhaglen frechu yng Nghymru wedi bod yn bosibl heb ymdrech, ymrwymiad ac ymroddiad ein staff. Mae'r adborth a dderbyniwyd gan ein defnyddwyr gwasanaeth, oherwydd ymdrechion ein staff, yn parhau i fod yn rhagorol ac yn dyst i’n galluoedd a'n cyflawniadau.”
Ystadegau Allweddol
BRECHLYNNAU A DDOSBARTHWYD LEDLED CYMRU GAN Y GWASANAETH NEGESYDD IECHYD
CYFLAWNIADAU CADWYN GYFLENWI A STORIO
PODIAU A GASGLWYD, A BACIWYD AC A DDOSBARTHWYD 51,000+
DOSBARTHWYD TUA: 1.2 BILIWN EITEM O GYFARFPAR DIOGELU PERSONOL A NWYDDAU
CYFANSWM Y TEITHIAU CLUDO CYFARPAR DIOGELU PERSONOL I LEOLIADAU GOFAL SYLFAENOL: 35,000+