Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Caffael yn dathlu llwyddiant mewn gwobrau caffael cenedlaethol

 

Procurement trolly

Roedd tîm Comisiynu Cyrchu Caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) mewn cydweithrediad ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), a thimau'r Gadwyn Gyflenwi, Logisteg a Chludiant yn enillwyr mewn nifer o gategorïau yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) Cymru eleni.

Mae Gwobrau GO yn dathlu ac yn rhoi cyfle i arddangos y datblygiadau arloesol, y mentrau a’r datblygiadau sy'n gwneud Cymru yn arweinydd y byd ym maes caffael cyhoeddus clyfar ac effeithiol.    

Enillodd y tîm Comisiynu Cyrchu yn y categori Cyflenwi Caffael Gorau am eu gwaith cydweithredol ar Wasanaethau Hyfforddiant ac Addysg Iechyd Proffesiynol. Diben y broses gaffael oedd sicrhau darpariaeth o addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel i sicrhau cynaliadwyedd yng ngweithlu'r GIG yng Nghymru drwy gomisiynu rhaglenni addysg cyn cofrestru ym meysydd sy’n cynnwys Nyrsio, Bydwreigiaeth ac amrywiaeth o Broffesiynau Perthynol i Iechyd.     

Enillodd tîm y Gadwyn Gyflenwi, Logisteg a Chludiant yn y categori Ymateb ac Adfer o COVID-19 am eu gwaith yn cefnogi Byrddau Iechyd wrth gydlynu’r gwaith o ddosbarthu Brechlynnau Covid a'r holl Nwyddau Traul Meddygol Cysylltiedig i alluogi'r Rhaglen Brechu rhag Covid yn GIG Cymru. Sicrhaodd hyn fod gan boblogaeth Cymru fynediad at y Rhaglen Brechu rhag Covid waeth beth fo'r cod post.

Yn y pen draw, ers dechrau'r rhaglen frechu, mae tîm y Gadwyn Gyflenwi, Logisteg a Chludiant wedi dosbarthu tua 6.8 miliwn o Frechlynnau.

 

Meddai Jonathan Irvine, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Caffael a’r Gwasanaeth Negesydd Iechyd PCGC;

Rwy'n falch iawn bod ein timau Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Chludiant a Chomisiynu Cyrchu Caffael, mewn cydweithrediad ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, wedi’u cyhoeddi yn enillwyr yn seremoni Gwobrau GO Cymru yn ddiweddar. Mae'r llwyddiant hwn, a hynny ar draws nifer o gategorïau, yn dyst i waith caled ac ymroddiad yr holl unigolion a'r timau dan sylw, ac mae’n cyd-fynd â'n dull o weithio ar draws partneriaethau er mwyn diwallu anghenion gofal iechyd yng Nghymru yn y ffordd orau.”

Rhannu: