Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Caffael yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau GO Cymru 2020

go wales 2020 logo

 

Cynhaliwyd seremoni Gwobrau GO Cymru yn y prynhawn ar 19 Mehefin 2020, sef y gwobrau caffael cyntaf erioed i gael eu cynnal yn gyfan gwbl ar-lein.

Mae Gwobrau GO Cymru yn cydnabod y gwaith diflino a'r ymdrech sy'n sail i ddarparu gwasanaethau hollbwysig; arddangos yr arloesedd a'r dyfeisgarwch sy'n sicrhau bod gwariant cyhoeddus yn creu budd cymdeithasol ac economaidd parhaol; ac i nodi'r cydweithrediadau a'r partneriaethau helaeth sy'n bodoli ar draws y cadwyni cyflenwi.

Cynhaliwyd Gwobrau GO Cymru gan y consuriwr Paul Martin a chroesawyd pawb yn swyddogol gan Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (Arweinydd y Senedd). Bu Gwobrau GO Cymru wrth eu boddau yn cyhoeddi 10 Gwobr Cymeradwyaeth Uchel, 9 Enillydd ac 1 Enillydd Eithriadol yn y gwobrau eleni, ar draws deg categori.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol i'r Gwasanaethau Caffael ac aeth gwobr Tîm y Flwyddyn i Dîm Caffael Rheng Flaen Caerdydd a'r Fro a Grŵp Gweithlu’r Gwasanaeth Negesydd Iechyd a Chaffael, a rhoddwyd Canmoliaeth Uchel i Brifysgol De Cymru.

Claire Salisbury, Pennaeth Caffael, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro;

”Rwyf wrth fy modd bod y tîm wedi ennill y wobr bwysig hon, sydd, yn fy marn i, yn dyst i'w hymrwymiad, eu sgiliau a’u harbenigedd.  Mae'r tîm yn arwain y ffordd ym maes caffael ac mae cael eu cydnabod gan eu cyfoedion yn brawf o'r gwaith caled, y sgil a'r ymroddiad hwn, ac rwy'n falch iawn o weithio ochr yn ochr â nhw bob dydd.”

 

Roedd y tîm caffael sy'n gweithio ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn enillwyr yng nghategori Prosiect Caffael y Flwyddyn (gwerth llai na £20m) a chafodd y Gwasanaethau Caffael Ganmoliaeth Uchel hefyd yn yr un categori ar gyfer y prosiect Effeithlonrwydd y Gweithlu Meddygol.

Cyhoeddwyd llwyddiant pellach hefyd gyda Grŵp Cynaliadwyedd y Tîm Caffael Gwyrdd yn ennill yn y Categori Arweinyddiaeth Caffael y Flwyddyn ac yn cael Canmoliaeth Uchel yn y categori Effaith Amgylcheddol Orau.

Mae Robert Type, Dirprwy Bennaeth Caffael y Bwrdd Iechyd, yn tynnu sylw at yr ymdrech a wnaethpwyd gan y tîm i ennill gwobr Prosiect Caffael y Flwyddyn. Robert;

”Mae hon yn enghraifft wych o staff rheng flaen a staff gwasanaethau cymorth yn gweithio gyda'i gilydd i ail-ddylunio a gweithredu prosesau a systemau newydd. Nid yn unig y mae hyn wedi bod o fudd i'r cleifion trwy allu darparu gofal gwell iddynt, ond mae hefyd wedi arbed amser i’r nyrsys ardal i'w galluogi i ganolbwyntio ar eu gwaith bob dydd. Mae staff y Gadwyn Gyflenwi a Chaffael yn darparu'r gwasanaeth newydd a oedd yn cynnwys sefydlu contractau gorchuddion cleifion sy'n darparu'r gwerth gorau am arian, yn ogystal â rhoi storfeydd newydd i'r canolfannau Nyrsio Ardal sy'n cynorthwyo dosbarthu ac ailgyflenwi gorchuddion ”.

Esbonia Tracey Bajjada, Nyrs Glinigol Arbenigol ar gyfer Ysbyty Aneurin Bevan rhagor am y prosiect sydd wedi ennill gwobrau,

Dyfarnwyd y wobr am ddosbarthiad llyfr fformiwlâu gorchuddion y Cydwasanaethau i'r Nyrsys Ardal Mae hyn wedi arbed amser i'r Nyrsys Ardal gan fod ganddyn nhw stoc o'r holl orchuddion yn y llyfr fformiwlâu ar eu safleoedd, felly does dim angen cael presgripsiynau. Mae hefyd wedi sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth gywir ar gyfer eu clwyfau ar unwaith. Mae hefyd wedi arbed mwy na 30% o wariant dydd i ddydd y Bwrdd Iechyd gan nad yw’r un gorchudd yn cael ei wastraffu gan nad yw’r gorchuddion yn cael eu dyrannu i gleifion unigol; yn syml, mae'r Nyrs Ardal yn mynd â’r gorchudd sydd ei angen ar y diwrnod."

“Mae staff y Bartneriaeth Cydwasnaethau yn ymweld â phob safle unwaith yr wythnos ac yn mynd trwy’r stocrestr. Yna maen nhw'n danfon y gorchuddion sydd eu hangen i'r safle, eu dadbacio a'u rhoi i gadw. Ac mae hyn yn arbed hyd yn oed mwy o amser i’r Nyrsys Ardal.”

Meddai Jonathan Irvine, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Caffael a’r Gwasanaeth Negesydd Iechyd;

“Mae hyn yn dangos y cryfder sylfaenol sydd gennym ar draws ein gweithrediadau ac ansawdd y gwaith a gynhyrchir sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i GIG Cymru. Da iawn a phob lwc i'r enillwyr yn rowndiau terfynol y DU.”

Rhannu: