Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr am Sylw i Gwsmeriaid yng Ngwobrau Cyfreithiol y DU LexisNexis 2022. Dyma'r tro cyntaf i'r adran gael ei henwebu yn y gwobrau hyn, ac mae’n arbennig o falch o gyrraedd y rhestr fer mewn categori gwasanaeth cwsmeriaid yn dilyn yr heriau sydd wedi wynebu'r GIG dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn brif flaenoriaeth i'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Ar ôl cael eu hachredu gyda'r Wobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid ers 2013, mae’n gweithio i gynnal diwylliant sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ar draws yr adran. Gan baru hyn gyda'u gwybodaeth arbenigol am y materion cyfreithiol sy'n effeithio ar GIG Cymru, maent yn credu eu bod yn darparu gwasanaethau cyfreithiol cynhwysfawr nad oes eu tebyg i'n cleientiaid mewn Byrddau Iechyd ledled Cymru. Mae cyrraedd rhestr fer y Wobr am Sylw i Gwsmeriaid yn gydnabyddiaeth o waith caled pawb yn eu timau i sicrhau bod y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn bodloni disgwyliadau eu cleientiaid ac yn rhagori arnynt.
Meddai Mark Harris, Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Cyfreithiol a Risg; “Rwyf wrth fy modd gyda'r newyddion cyffrous ein bod wedi cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Cyfreithiol y DU LexisNexis 2022 drwy gyrraedd rhestr fer y Wobr am Sylw i Gwsmeriaid. Mae ein holl dimau, gan weithio mewn partneriaeth â phob corff GIG yng Nghymru, wedi bod yn gweithio'n anhygoel o galed i sicrhau ansawdd a gwydnwch ein gwasanaethau a’u gwella’n barhaus. Mae'r berthynas rhwng ein staff a'n cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn, felly mae'n wych cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr yn y categori hwn.”