Neidio i'r prif gynnwy

Gweminar ar-lein: Gwasanaethau Caffael GIG Cymru – Allai Eich Busnes CHI Elwa?

 

Er gwaethaf yr angen y mae mawr sôn amdano am PPE, nid yw llawer o fusnesau bach yn ymwybodol o gyfleoedd i gyflenwi GIG Cymru a sut i ddiogelu’r gwaith hwn a allai fod yn sbardun allweddol i helpu busnesau bach i dyfu. Trefnir y weminar hon gan Ffederasiwn y Busnesau Bach a Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac fe’i cefnogir gan Wasanaethau Caffael y GIG, Diwydiant Cymru a Busnes Cymru. Mae ein cydweithwyr o Wasanaethau Caffael PCGC, Alan Binks, Stephen Pickard ac Alex Curley, yn rhan o banel o arbenigwyr lle y gallwch chi:

 

  • glywed am beth sydd ei angen ar GIG Cymru, a sut y mae busnesau bach eraill wedi manteisio ar gyfleoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • ddysgu am sut i ddiogelu gwaith trwy wasanaethau caffael y GIG, a chefnogaeth sydd ar gael i helpu busnesau
  • ofyn cwestiynau am Wasanaethau Caffael y GIG i banel o arbenigwyr (gofynnir i’r rhai sy’n mynychu gyflwyno cwestiynau wrth gofrestru ar gyfer y digwyddiadau trwy’r ddolen archebu). 

 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i gofrestru nawr! https://www.fsb.org.uk/event-calendar/nhs-wales-procurement-could-your-business-benefit.html

 

Rhannu: