Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrau Thrombo-emboledd Gwythiennol (VTE) 2023

 

Llwyddodd Timau GIG Cymru i ennill nifer helaeth o’r gwobrau yn y Gwobrau VTE cenedlaethol diweddar a gyflwynwyd gan Lyn Brown AS a'r elusen, Thrombosis UK, ar 29 Tachwedd yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae’r gwobrau’n dathlu arferion rhagorol o ran rheoli, addysgu a darparu gwasanaethau thrombo-emboledd gwythiennol (VTE) ledled y DU.

Dyfarnwyd gwobrau i dimau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, Ysbyty Brenhinol Morgannwg a ‘Grŵp Llywio Thrombosis a Gafwyd yn Ysbyty (HAT) Cymru Gyfan’ ac ymunodd cydweithwyr ac aelodau seneddol â nhw i’w llongyfarch.

Mae VTE a elwir hefyd yn 'thrombosis' neu 'glotiau gwaed' sy'n cynnwys 'thrombosis gwythiennau dwfn' ac 'emboledd ysgyfeiniol', yn un o brif achosion marwolaethau mewn ysbytai ac anabledd. Mae tua 50% o'r holl glotiau gwaed yn gysylltiedig â chael eich derbyn i'r ysbyty oherwydd salwch neu lawdriniaeth.

Dyfarnwyd y wobr gyntaf i dîm amlddisgyblaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y categori 'Gwobr Gwella Ansawdd’ am eu dull 'APPLE', a dyfarnwyd gwobr i'r Gwasanaeth Cychwyn a Monitro Gwrthgeulo a Arweinir gan Fferylliaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn y categori 'Gwella profiadau cleifion ynghylch atal VTE'. Cydnabuwyd Grŵp HAT Cymru Gyfan am waith rhagorol dros gyfnod o ddeng mlynedd, gan arwain at welliant sylweddol o ran hyfforddiant staff, ymwybyddiaeth, diogelwch cleifion a bywydau a achubwyd o glotiau gwaed a allai fod wedi bod yn angheuol.

Cafwyd dathliadau arbennig ar ddiwedd y seremoni pan enillodd Marilyn Rees, y nyrs arbenigol o Gaerdydd, wobr 'Arwr Di-glod VTE'.

Mae ymroddiad a phenderfyniad diflino Marilyn i fynd yr ail filltir wrth rannu ei hangerdd a’i brwdfrydedd mewn atal VTE, wedi bod yn allweddol i wella atal a rheoli clotiau gwaed ar draws holl Fyrddau Iechyd Cymru ac mae wedi rhannu’r hyn a ddysgwyd o’r gwaith hwn yn rhyngwladol.

Gwnaeth y gwaith helaeth a’r cydweithrediad rhwng timau ledled Cymru argraff fawr ar banel beirniaid Gwobrau VTE a buddion amlwg hyn i ofal a diogelwch cleifion.

 

Ynglŷn â Thrombo-emboledd Gwythiennol (VTE)

Mae VTE yn gyflwr pan fo clotiau gwaed yn ffurfio (gan amlaf) yng ngwythiennau dwfn y goes (a elwir yn thrombosis gwythiennau dwfn, DVT) a gallant deithio yn y cylchrediad ac aros yn yr ysgyfaint (a elwir yn emboledd ysgyfeiniol, PE). Mae VTE yn gyflwr sy'n peryglu bywyd, ond yn un y gellir ei atal yn aml, sy'n effeithio ar filiynau o bobl ledled y byd.

  • Mae 1 o bob 4 o bobl ledled y byd yn marw o gyflyrau a achosir gan glotiau gwaed.
  • Gall clotiau gwaed effeithio ar unrhyw un.
  • Os oes gennych unrhyw boen anesboniadwy yn enwedig yn eich coesau, rydych yn dioddef llewyg anesboniadwy, yn peswch neu’n dioddef diffyg anadl, gofynnwch am gyngor meddygol a gofynnwch, “A all hwn fod yn glot gwaed?” 

  

Manylion cyswllt:

www.thrombosisuk.org
jo@thrombosisuk.org

Mae’n bleser gennym groesawu Christine Welburn i’n Tim Diodelwch a Dysgu i gefnogi rhaglen atal Thrombo-emboledd Gwythiennol.

Rhannu: