Mae Jonathan Webb, Pennaeth Diogelwch a Dysgu a Maria Stolzenberg, Prif Arweinydd Systemau yn cyflwyno ac yn cynnal gweithdai yn Orlando ar gyflwyno System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru yn y gynhadledd 'Unlocking Safer Care'. Gyda dros fil o gyfranogwyr yn y digwyddiad hybrid, mae’r gynhadledd yn gyfle gwych i arddangos yr hyn sydd wedi’i gyflawni gan staff GIG Cymru ers lansio’r system yn 2021.
Dywedodd Jonathan; “…bu llawer o ddiddordeb yn yr hyn y mae GIG Cymru wedi'i gyflawni ac yn parhau i ddatblygu. Rwy'n falch o gyflwyno'r pwnc hwn sydd wedi dod â llif gwaith unedig a chysondeb wrth ymdrin â digwyddiadau, adborth a phryderon ar draws holl sefydliadau GIG Cymru.”
Amlygodd Maria; “…mae'r gynhadledd yn rhoi cyfle i ni gwrdd, rhannu a dysgu gyda defnyddwyr cynnyrch RLDatix ar draws Gogledd America a sefydlu pethau y gallwn ddod â nhw i Gymru.”
Dywedodd Neil Frow, Rheolwr Gyfarwyddwr PCGC; “Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a holl gyrff iechyd Cymru wedi buddsoddi cryn amser i gefnogi gweithredu system newydd Datix Cymru. Cafodd Maria ei chydnabod yn ddiweddar fel Rheolwr Datix y Flwyddyn ac rwy'n falch iawn ei bod hi a Jonathan wedi cael gwahoddiad i siarad yn y digwyddiad pwysig hwn.”