Mae GIG Cymru wedi lansio ei Strategaeth Ymladd Twyll (2026–2030) newydd — sy’n rhoi gwybod i bob aelod o staff am y rhan sydd ganddynt i'w chwarae.
Gall twyll, llwgrwobrwyo a llygredigaeth dynnu arian oddi wrth y gwasanaethau y mae ein cleifion yn dibynnu arnynt.
Yn syml, mae pob punt sy'n cael ei diogelu yn bunt y gellir ei defnyddio ar gyfer gofal i gleifion.
Mae'r strategaeth newydd yn nodi sut y bydd GIG Cymru yn aros gam ar y blaen trwy atal twyll cyn iddo ddigwydd, canfod risgiau'n gynharach, ymateb yn gyflym pan fydd pryderon yn codi, a chydweithio ym mhob cwr o Gymru a gyda phartneriaid.
Gall cydweithwyr helpu trwy aros yn effro, cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth o dwyll, dilyn mesurau rheoli da yn eu maes gwaith, a lleisio pryder os oes rhywbeth nad yw'n ymddangos yn iawn.
Mae rhoi gwybod am bryderon yn brydlon yn helpu i ddiogelu adnoddau'r GIG a'r cleifion rydym yn eu gwasanaethu.