Neidio i'r prif gynnwy

India i gael offer achub bywyd o ganolfan ddosbarthu genedlaethol PCGC

O’r chwith: Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething; Rheolwr Gyfarwyddwr PCGC, Neil Frow; Pennaeth y Gadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth, Tony Chatfield, a'r Cyfarwyddwr Mark Roscrow.

Ymwelodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething a Chadeirydd cangen Cymru o Gymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd (BAPIO), yr Athro Keshav Singhal, â Chanolfan Ddosbarthu Genedlaethol PCGC yn IP5 yng Nghasnewydd heddiw (dydd Llun 10 Mai) i archwilio’r cyflenwadau.

Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn darparu tua 600 o grynodyddion ocsigen a mwy na 300 o beiriannau anadlu sydd ar fin gadael am India yn y dyddiau nesaf.

Dywed yr Athro Keshav Singhai, sy’n helpu i gydlynu'r ymdrech i ddarparu cymorth, ei fod yn un o'r llwythi mwyaf o offer achub bywyd sy'n dod o'r DU.

Mae India wedi cofnodi mwy na 19 miliwn o achosion o coronafeirws - yn ail yn unig i’r Unol Daleithiau. Mae gwyddonwyr yn edrych i weld a allai amrywiolyn newydd o India fod y tu ôl i'r cynnydd mewn achosion. Bydd yr offer yn cael eu hanfon i ysbytai yn rhai o'r ardaloedd sydd wedi'u taro waethaf yn India.

"Mae wedi bod yn waith dwys iawn am wythnos neu ddwy," meddai Mr Singhai, cadeirydd Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd. "Rhaid i mi ddweud ei fod wedi bod yn hynod bwerus oherwydd bod swyddogion yn gweithio drwy'r penwythnos," ychwanegodd.

Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:

“Mae COVID-19 yn fygythiad byd-eang, ac yn hynny o beth mae'n iawn ein bod ni'n rhan o'r ymateb byd-eang, yn cefnogi cenhedloedd eraill. Rydym wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth India ar logisteg trefnu i’r cyflenwadau hyn gael eu cludo i India a’u dosbarthu i’r ysbytai lle mae eu hangen fwyaf.”

Ychwanegodd Mark Roscrow, Cyfarwyddwr PCGC, ei bod yn bosibl anfon yr offer "oherwydd bod y sefyllfa yng Nghymru yn llawer gwell", gan ddweud bod Cymru "yn gallu chwarae ein rhan fach wrth helpu".

Mae hediadau'n cael eu trefnu gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.

 

Rhannu: