Cyhoeddwyd bod cydweithwyr o is-adran Datblygu Pobl a Sefydliadol Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) yn enillwyr ar draws nifer o gategorïau yng Nghynhadledd a Seremoni Gwobrau HPMA Cymru a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2023.
Roedd y gwobrau, a oedd yn rhan o gynhadledd HPMA Cymru a gynhaliwyd yn stadiwm Swansea.com, De Cymru, yn dathlu’r gwaith anhygoel sy’n mynd rhagddo ledled y dywysogaeth ac roedd thema’r gwobrau’n ymwneud â datblygu a dathlu diwylliant sefydliadol o fewn y GIG yng Nghymru. Cafodd cynulleidfa o 200 o bobl gyflwyniadau gan siaradwyr gwadd ar bynciau diwylliannau amrywiol, y Gymraeg ac adeiladu timau sy’n dod â safbwyntiau a thalentau gwahanol sydd yn y pen draw yn helpu i gynyddu arloesedd a sbarduno perfformiad uwch.
Cyhoeddwyd bod cydweithwyr Pobl a Datblygu Sefydliadol yn enillwyr yng nghategorïau mawreddog Tîm y Flwyddyn; gyda James Green, Rheolwr Gwasanaethau Pobl, yn ennill y wobr Gweithio Traws-sector; Kerry Flower-Fitzpatrick, Cynghorydd Iechyd Meddwl, y wobr Llesiant; a Karolina Kobylnik, Uwch Bartner Busnes Pobl a Datblygu Sefydliadol, yn ennill y wobr am Weithio mewn Partneriaeth Rhwng Cyflogwyr ac Undebau Llafur.
Gareth Hardacre, Cyfarwyddwr Pobl, Datblygu Sefydliadol a Gwasanaethau Cyflogaeth PCGC a Chadeirydd Pwyllgor HPMA Cymru;
“Rwyf wrth fy modd dros ein cydweithwyr o is-adran Pobl a Datblygu Sefydliadol PCGC. Mae’r llwyddiant hwn, ar draws categorïau lluosog, yn dyst i waith caled ac ymroddiad yr holl unigolion a thimau dan sylw, yn unol â’u hymagwedd gyffredinol at lesiant, traws-bartneriaeth, a chydweithio. Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran.”
“Diben y gynhadledd heddiw yw cyflwyno’r gwaith anhygoel sy'n digwydd ledled GIG Cymru a rhannu'r arferion gorau fel y gallwn ni i gyd ddylanwadu'n gadarnhaol ar ddiwylliannau ein sefydliadau. Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol a diolch am eich cyfraniadau a amlygodd nifer o brosiectau a mentrau rhagorol sy'n cael eu cynnal ar lefel leol. Diolch hefyd i’r holl siaradwyr am eu dirnadaeth amhrisiadwy, yr holl fynychwyr a thîm digwyddiadau HPMA Cymru am drefnu digwyddiad mor ddiddorol.”
Dywedodd Julia Denyer, Pennaeth Datblygu Sefydliadol;
“Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o Dîm y Flwyddyn HPMA! Cyflwynwyd y wobr hon i dîm Pobl a Datblygu Sefydliadol PCGC i gydnabod y ffyrdd y mae Adnoddau, Dadansoddeg Gweithlu, Partneriaethau Busnes a Datblygu Sefydliadol yn cydweithio i gefnogi pobl o fewn y sefydliad. Mae hyn wedi cynnwys nifer o ddarnau o waith cydweithredol gan gynnwys datblygu dysgu, cymorth iechyd meddwl, ymyriadau Datblygu Sefydliadol pwrpasol a datblygu cynnig gwerth gweithwyr PCGC. Mae’r tîm yn achub ar gyfleoedd i fyfyrio, arloesi a datblygu ac ymdrechu’n gyson i gyrraedd a rhagori ar y lefel o wasanaeth a ddisgwylir.”
Wrth fyfyrio ar ei gwobr am Weithio mewn Partneriaeth Rhwng Cyflogwyr ac Undebau Llafur, dywedodd Karolina Kobylnik;
“Rydym mor falch o gael ein hanrhydeddu gyda’r wobr am y gwaith partneriaeth gorau rhwng cyflogwyr ac undebau llafur – mae’n dangos ein bod yn datblygu perthnasoedd effeithiol yn barhaus gyda chydweithwyr mewn undebau llafur er mwyn cynllunio perthnasoedd gwell â gweithwyr. Ffurfiwyd gweithgor bach yn cynnwys undebau llafur, Hyrwyddwyr Llesiant a Phartneriaid Busnes i benderfynu beth oedd ei angen i wella’r cymorth yn ystod ymchwiliadau a’i ganlyniadau.”
“Mae’r dull anffurfiol o ddatrys materion yn gynnar ac ymlaen llaw wedi’i nodi fel newid sylweddol yn y ffordd y mae PCGC yn ymdrin ag ymchwiliadau. Yr allwedd oedd mynd â phethau'n ôl i'r pethau sylfaenol er mwyn deall beth oedd ofnau pobl a beth oedd ei angen arnynt wrth wynebu ymchwiliad. Mae sawl peth yn aml y tu allan i reolaeth y sefydliad, ond yr hyn sydd byth allan o reolaeth neb yw codi'r ffôn a rhoi'r newyddion diweddaraf i bobl. Hyd yn oed os yw hynny er mwyn iddynt wybod nad ydynt ar eu pennau eu hunain. Weithiau y cyfan sydd ei angen yw sgwrs rhwng dau berson sydd eisiau gwneud gwahaniaeth.”
Dywedodd James Green, enillydd gwobr Gweithio Traws-sector;
“Rwy’n falch iawn o fod wedi ennill gwobr HPMA am weithio Traws-Sector ond byddai’n esgeulus ohonof i beidio â sôn am y gwaith gwych y mae tîm ehangach y Banc Adnoddau wedi’i wneud i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae’r wobr yn adlewyrchiad o’r 20 mis diwethaf, gan feithrin perthnasoedd yn rhagweithiol â sefydliadau allanol yn y sector cyhoeddus, gan weithio ledled Cymru gyda chynghorau lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru a phrosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru.”
“Dangosodd y prosiect gynaliadwyedd gan ein bod bellach yn gallu recriwtio a dewis ymgeiswyr o ystod amrywiol o gronfeydd talent, ac un o’r cyflawniadau allweddol yw ein bod fel sefydliad wedi lleihau gwariant asiantaethau tua £100 mil y mis.”