Roeddem wrth ein bodd yn croesawu Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'n cyfleuster yng Nghasnewydd heddiw/yr wythnos hon.
Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â'n Hadeilad yn Rhif 5 Parc Imperial (IP5) i weld lleoliad cyfleuster newydd gwerth £7.6 miliwn a fydd yn trawsnewid sut mae triniaethau achub bywyd yn cael eu gwneud i gleifion yn Ne-ddwyrain Cymru.
Mae’r gwaith wedi'i ariannu gan raglen gyfalaf Llywodraeth Cymru. Yn ystod yr ymweliad, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet weld sut mae'r gwaith ar y cyfleuster newydd, lle bydd y meddyginiaethau hyn yn cael eu gweithgynhyrchu, yn mynd rhagddo. Cyfarfu hefyd â'n staff sy’n gweithio'n galed i'w gyflawni.
Bydd y cyfleuster newydd yn gartref i radiofferylliaeth, gwasanaeth sy'n cynhyrchu chwistrelliadau ymbelydrol i gleifion, a ddefnyddir yn bennaf mewn sganiau at ddibenion diagnosis ar gyfer cyflyrau meddygol difrifol gan gynnwys canser.
Gan fod ymbelydredd yn gwahanu dros amser, dim ond oes silff o ychydig oriau sydd gan rai o'r chwistrelliadau. Mae hynny'n golygu y bydd y cyfleuster newydd yn sicrhau bod y GIG yn ne-ddwyrain Cymru yn fwy parod i ddiwallu'r galw a chael y meddyginiaethau arbenigol hyn i'r lle mae eu hangen yn brydlon.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol “Mae wedi bod yn wych gweld y cynnydd y gwaith o adeiladu cyfleuster radiofferylliaeth newydd ym Mharc Imperial.
“Mae deunydd fferyllol ymbelydrol yn feddyginiaethau arbenigol iawn sy’n hanfodol ar gyfer llawer o driniaethau a ddefnyddir gan y GIG. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn darparu'r cyllid i wireddu hyn.
“Bydd y cyfleuster newydd hwn o fudd i bobl ledled de-ddwyrain Cymru ac yn sicrhau bod gan y GIG fynediad at y meddyginiaethau arbenigol sydd eu hangen arno.
“Mae radiofferylliaeth yn rhan o’r cynlluniau i gynyddu gallu GIG Cymru i gynhyrchu therapïau gwrthganser arbenigol, maeth mewnwythiennol a meddyginiaethau di-haint eraill. Bydd safle Parc Imperial yn ganolog i drawsnewid argaeledd y meddyginiaethau hyn yng Nghymru.”
Meddai Neil Frow, Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru: “Rydym yn falch o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i Gasnewydd heddiw i weld y gwahaniaeth y bydd y cyfleuster radiofferylliaeth hwn yn ei wneud yn uniongyrchol i gleifion ledled de-ddwyrain Cymru.
“Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, gall Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru Cymru sicrhau bod gennym y capasiti i wneud a chyflenwi meddyginiaethau hanfodol o ansawdd uchel i ysbytai ar draws y rhan hon o Gymru, a fydd yn gwella gofal cleifion ac yn lleihau amseroedd aros.
“Mae’r cyfleuster hwn yn garreg filltir allweddol ac rydym yn falch o fod ar flaen y gad o ran sicrhau bod gwasanaethau technegol fferylliaeth ar draws GIG Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol.”
Dechreuodd y gwaith ar y datblygiad y mis hwn a'r gobaith yw y bydd y cyfleuster newydd yn weithredol yng ngwanwyn 2026.