Mae bydwraig sy'n arwain rhaglen hyfforddi genedlaethol Cymru i wella gofal a diogelwch mamolaeth wedi cael ei henwi'n Fydwraig y Flwyddyn Cymru gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM). Derbyniodd Sarah Hookes, sy’n gweithio i Wasanaethau Cronfa Risg Cymru PCGC, ei gwobr yn seremoni Gwobrwyo Blynyddol fawreddog RCM ar 27 Hydref, dan ofal Myleene Klass, y cyflwynydd a’r gerddores.
“Mae'n anrhydedd llwyr derbyn y wobr hon ar ôl gyrfa hynod foddhaus fel bydwraig. Yn ddiweddar, rwy’n falch fy mod wedi ymrwymo i weithio i PROMPT Cymru. Er fy mod wedi bod yn y sefyllfa ffodus o arwain y rhaglen hon, ni fyddai unrhyw rhan ohoni wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth unigolion a thimau ledled GIG Cymru. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Jonathan Webb, Sarah Morris a Jane Storey ac i fy nghydweithwyr yng Nghronfa Risg Cymru. Rhaid cydnabod a chanmol cydweithwyr mewn gwasanaethau mamolaeth ledled GIG Cymru a wnaeth gweithredu PROMPT Cymru’n bosibl. Mae’r wobr hon i Gymru!”
Fel Bydwraig Genedlaethol yn 2018, teithiodd Sarah ledled Cymru i gyflwyno rhaglen hyfforddi mamolaeth i fydwragedd, meddygon, a staff mamolaeth eraill ym myrddau iechyd Cymru. Roedd hyn yn cynnwys rhoi hyfforddiant mewn argyfyngau obstetrig lle mae’n hanfodol i staff mamolaeth gydweithio'n effeithiol fel tîm. Yn ogystal, bu Sarah yn hyfforddi bydwragedd eraill ledled Cymru i gyflwyno rhaglenni hyfforddi yn eu gwasanaethau mamolaeth nhw.
Mae gwaith Sarah wedi bod yn allweddol wrth ddiwallu anghenion hyfforddiant gorfodol ac mae hi hefyd wedi datblygu pecyn hyfforddiant mewn argyfwng ar gyfer ei chydweithwyr bydwreigiaeth cymunedol ledled Cymru. Roedd gofynion y pandemig hefyd yn golygu bod yn rhaid iddi addasu’r cyrsiau ‘ymarferol’ a ddatblygodd ac a gyflwynodd. Aeth i'r afael â'r her honno a chynhyrchodd becyn hyfforddi sy’n ddiogel o ran COVID ar gyfer unedau mamolaeth Cymru.
Dywedodd Helen Rogers, Cyfarwyddwr Cymru RCM: “Oherwydd ei hymdrechion, mae Sarah wedi cael effaith sylweddol ar ddiogelwch ac ansawdd gofal i famau a babanod ledled Cymru. Mae’n hynod bwysig bod timau mamolaeth bydwragedd, meddygon ac eraill yn cydweithio'n dda, ac mae Sarah yn eu helpu i wneud yn union hynny. Mae ei hysbryd, ei phenderfyniad a'i brwdfrydedd diflino yn rhywbeth y gallwn oll ddysgu ohono. Mae hi'n rhywun sy'n wirioneddol haeddu'r clod hwn ac rwy'n ei llongyfarch ar ennill y wobr uchel ei bri hon. "
Gellir darllen rhagor o wybodaeth am PROMPT Cymru yma.