Neidio i'r prif gynnwy

Llongyfarchiadau wrth i Gadeirydd PCGC dderbyn OBE

 

Llongyfarchiadau mawr i'r Athro Tracy Myhill, ein Cadeirydd, ar dderbyn yr anrhydedd o gael OBE am ei llwyddiannau eithriadol sydd wedi cael effaith hirdymor, sylweddol ac sy'n sefyll allan fel esiampl i eraill.

Wrth dderbyn ei OBE dywedodd yr Athro Myhill;

"Roedd mynd i Gastell Windsor i dderbyn fy OBE yn brofiad gwych ac yn un na fyddaf byth yn ei anghofio. Mae cynifer o bobl wedi fy ngalluogi i gael yr anrhydedd hon - o’n staff rheng flaen yn y GIG sy'n darparu neu'n cefnogi'r ddarpariaeth o wasanaethau i'n cleifion i'r rhai sy'n canolbwyntio ar ein cynorthwyo ni i gyd i wella ein hiechyd.

"Y geiriau sy’n dod i’r meddwl i ddisgrifio sut rwy’n teimlo yw ‘anrhydedd’ a ‘gostyngedig’. Mae'r Anrhydedd hon hefyd ar gyfer fy nheulu a'm ffrindiau. Heb eu cariad a’u cefnogaeth ni allwn fod wedi cyflawni popeth rwyf wedi’i gyflawni trwy gydol fy ngyrfa yn y GIG ac yn fy mywyd yn fwy cyffredinol."

"Roedd pobl yn credu ynof, yn fy annog, yn fy natblygu, yn gweld y potensial ynof ac yn fy nghefnogi drwy gydol fy 36 mlynedd yn GIG Cymru. Byddaf bob amser yn ddiolchgar i bob un ohonynt. Mae'r Anrhydedd hwn yn gymaint i'r holl bobl anhygoel hyn ag ydyw i mi."

Rhannu: