Mae'n bleser gan PCGC gyhoeddi bod Nicola Phillips wedi'i phenodi i rôl Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol (PCS).
Mae hon yn swydd newydd ac eang yn PCS ac mae'n ychwanegol at swydd bresennol Nicola fel Pennaeth Gwasanaethau Ymgysylltu a Chefnogaeth.
Ar ôl cadarnhau'r penodiad, dywedodd Andrew Evans, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol;
“Rwy’n hynod falch ein bod wedi gallu penodi Nicola i’r swydd hon. Bydd ei gwybodaeth, ei sgiliau a'i phrofiad yn bwysig iawn wrth helpu PCS i gwrdd â'r heriau sydd o'n blaenau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.”
Bydd Nicola yn cychwyn yn ffurfiol ar ei rôl ar 1 Tachwedd 2020 a dymunwn bob llwyddiant iddi yn ei swydd newydd.