Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant ar gyfer Tîm Cyflogaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yng Ngwobrau'r Gyfraith De Cymru

 

Llongyfarchiadau i’r Tîm Cyflogaeth yn ein his-adran Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, a oedd yn enillwyr yn y categori ‘Gwasanaethau Cyfraith Cyflogaeth y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Mawreddog y Gyfraith De Cymru.

Mae Gwobrau’r Gyfraith De Cymru yn dathlu cyflawniadau gwirioneddol ryfeddol y gymuned gyfreithiol ac mae’n rhoi cydnabyddiaeth sylweddol am waith y Tîm Cyflogaeth ym mhroffesiwn y gyfraith.

 

Meddai Sioned Eurig, Pennaeth y Tîm Cyflogaeth;

“Rwyf wrth fy modd fy mod i’n arwain tîm mor anhygoel. Rydyn ni i gyd mor hapus ein bod wedi ennill yng Ngwobrau’r Gyfraith De Cymru a byddwn yn parhau i anelu at ddarparu gwasanaeth a chyngor ardderchog i dimau Adnoddau Dynol a thu hwnt yn GIG Cymru. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd i nifer o bobl, ac rydyn ni’n falch ein bod ni wedi gallu bod o gymorth yn ystod pandemig COVID-19. Nid yn unig yr ydyn ni’n amddiffyn sefydliadau GIG Cymru mewn hawliadau Tribiwnlys Cyflogaeth, ond rydyn ni hefyd yn cynghori ar ddatblygu polisi a strwythurau i sicrhau bod y GIG yn fwy cynhwysol ac yn lle gwell i weithio iddo.”

 

Nodiadau i olygyddion

Sefydlwyd y Tîm Cyflogaeth yn 2012 ac mae ar hyn o bryd yn cynnwys 8 Cyfreithiwr a 2 Weithredwr Cyfreithiol ac mae’n elwa ar gymorth gan Ysgrifennydd Cyfreithiol a Myfyriwr Rhwydwaith75.

Mae gan y Tîm Cyflogaeth gylch gwaith eang yn GIG Cymru ac mae’n gweithredu ar ran Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau mewn ystod eang ac amrywiol o achosion Tribiwnlys Cyflogaeth, ac mae hefyd yn cynghori ar faterion polisi strategol lefel uchel.

Rhannu: