Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant triphlyg i'r adran Cyfrifon Taladwy sydd wedi cael cydnabyddiaeth fawr gan y diwydiant

Mae tîm Cyfrifon Taladwy PCGC wedi cyflawni nifer o gerrig milltir yn bersonol ac yn broffesiynol.

Dyfarnwyd gwobr Ardystiad Ansawdd Cymdeithas Cyfrifon Taladwy i’r tîm fel rhan o’i gwaith ‘Q Programme’. Wrth ennill yr ardystiad, dim ond yr ail sefydliad yn y  DU i ennill y wobr yw’r tîm -  cyflawniad proffesiynol mawr.

 Cymdeithas Cyfrifon Taladwy (APA) yw’r corff proffesiynol cyntaf (ac unig gorff) yn y DU sydd wedi ymroi i wasanaethu cymuned broffesiynol Cyfrifon Taladwy / Llyfr Prynu. Amcan ei Raglen Q yw diffinio a datblygu safonau arferion gorau ar gyfer achrediad arferion gorau proffesiynol cydnabyddedig i’r diwydiant er mwyn cydnabod y gwerth proffesiynol y mae Cymunedau AP yn ei roi i fusnes a gwella safonau Cyfrifon Taladwy ar draws y byd.

 Crëwyd cerdyn sgorio gyda’r Tîm AP yn derbyn sgôr cyffredinol nodedig o 87% a gafodd ei fesur yn erbyn y meini prawf canlynol:

  • Polisi Cyfrifon Taladwy - 85%
  • Rheolaethau a Chydymffurfiaeth - 90%
  • Boddhad Cwsmeriaid - 88%
  • Datblygiad Personol - 85%
  • Rheoli rhanddeiliaid - 89%
  • Gwerthoedd a Mentrau - 90%

 

Nid adnabu’r Gymdeithas unrhyw argymhellion yn ei adroddiad dilynol oedd yn amlygu ansawdd y gwasanaeth a ddarparwyd. Roedd nifer o agweddau eraill yn denu sylw yn yr adroddiad gan gynnwys cyfeiriad at y diwylliant o welliant parhaus er gwaethaf heriau’r 18 mis diwethaf - cyflawniad nodedig.

Wrth i ragor o sefydliadau gyflawni’r achrediad ansawdd, bydd y Gymdeithas yn creu Tabl Cynghrair Rhaglen Q a fydd yn nodi meysydd i’w gwella.

 

Russell Ward, Pennaeth Cyfrifon Taladwy ac e-Alluogi:

“Mae hyn yn cynrychioli’r ‘eisin ar y gacen’ ar gyfer y gwasanaeth. Yn 2015 roedd y swyddogaeth yn wynebu heriau difrifol a chyflwynwyd cynllun gweithredu a ardystiwyd gan y brand adnabyddus yn fyd-eang,  PricewaterhouseCoopers. Yn ei dro, helpodd hyn i ddechrau troi’r gornel yn raddol. Ar ôl hynny enillom achrediad System Rheoli Ansawdd ISO 9001 yn 2018 ac enillon ni wobr Tîm y Flwyddyn yng Nghymru yng Ngwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus. Yn ogystal, mae swyddogaeth Cyfrifon Taladwy wedi bod yn arloesi gweithio ystwyth yn PCGC cyn y pandemig. Mae cael cydnabyddiaeth a gwobr acolâd Q APA yn gydnabyddiaeth o’r holl waith caled mae pawb yn y tîm wedi’i wneud.”

 

 

Cydnabyddiaeth Gwobrau Cyfrifon Taladwy

Cafwyd cydnabyddiaeth bellach yng Ngwobrau Cymdeithas Cyfrifon Taladwy mawreddog lle y coronwyd Russell Ward yr Ail Orau yn y categori Arweinyddiaeth. Mae'r wobr hon yn dyst i’r gwaith y swyddogaeth Cyfrifon Taladwy ledled Cymru a dyma’r ail wobr i’r tîm Cyfrifon Taladwy, oedd hefyd yn Ail Orau yn y categori Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.

 

Cymdeithas Cyfrifon Taladwy - Y 100 Dylanwadwr uchaf

Yn flynyddol mae’r Gymdeithas Cyfrifon Taladwy yn cydnabod unigolion sy’n ddylanwadol ym mhroffesiwn Cyfrifon Taladwy trwy eu rhoi ar fynegai 100 Dylanwadwr Uchaf APA.

Er mwyn cyrraedd y rhestr, rhaid i unigolion fod wedi parhau i hyrwyddo a datblygu llais o fewn y diwydiant Cyfrifon Taladwy wrth gynorthwyo eraill. Cydnabuwyd Russell Ward gan APA fel unigolyn dylanwadol ym mhroffesiwn Cyfrifon Taladwy ac o ganlyniad cafodd ei ychwanegu i fynegai’r Dylanwadwyr. Mae hyn yn gyflawniad mawreddog sy’n cael ei chwenychu’n fawr ac mae’n dweud cyfrolau am y safonau uchel sydd wedi’u halinio â Gwerthoedd Craidd PCGC y mae Russell yn eu dangos yn glir.

Mae Russell wedi gweithio i PCGC am bron i saith mlynedd ac mae ei gymwysterau nodedig yn cynnwys gradd Meistr maen Gweinyddiaeth Busnes a chymhwyster rheoli prosiect Prince 2. Mae’n aelod o Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi, Sefydliad Rheoli Personél a Chymdeithas Cyfrifon Taladwy

Mae Russell yn rheoli cyfanswm o 130 o staff sy’n gweithio mewn 2 swyddfa ac mae ganddo dros 40 mlynedd o brofiad o weithio mewn nifer o sectorau sy’n cynnwys: Llywodraeth Ganolog, Llywodraeth Leol, y sectorau preifat, cyhoeddus, cyfleustodau a dŵr.

Rhannu: