Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn dathlu ar ôl i un o'i phrosiectau gyrraedd rownd derfynol Gwobrau GIG Cymru eleni, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun 15 Awst 2022).
Mae'r bwrdd iechyd yn cystadlu am y wobr ganlynol:
Gwella diogelwch cleifion
Gwasanaeth CIVAS COVID-19 Cymru Gyfan.
Dywedodd Colin Powell, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol Fferylliaeth Cymru Gyfan;
“O dan arweiniad Gareth Tyrrell mae’r gwasanaeth hwn wedi mynd o nerth i nerth drwy ddarparu ystod o feddyginiaethau sy’n barod i’w rhoi i gefnogi gofal cleifion a’n cydweithwyr clinigol ledled GIG Cymru. Mae’r uned eisoes yn darparu tua 20,000 o chwistrellau sy’n barod i’w defnyddio bob blwyddyn ond mae’n bwriadu ehangu ei phortffolio i ddarparu ystod ychwanegol o chwistrellau parod i’w rhoi a bagiau trwytho dros y flwyddyn nesaf.”
Mae'r Gwobrau'n cydnabod sut y gall syniadau arloesol ar gyfer newid wneud gwahaniaeth sylweddol i'r cleifion sydd angen gofal, y sefydliadau sy'n darparu gofal, a'r system iechyd a gofal yn gyffredinol. Mae'n gyfle i arddangos timau gweithgar ac ysbrydoledig sy'n gweithio gyda'i gilydd, gan ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion ledled Cymru. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni ar 10 Hydref 2022.
Gyda chynifer o geisiadau ysbrydoledig yn cael eu cyflwyno eleni, roedd arbenigwyr y GIG ar y panel beirniadu yn ei chael hi'n anodd iawn llunio rhestr fer o'r 24 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn yr 8 categori gwobrau. Y cam nesaf yw i'r paneli beirniadu ymweld â phob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i ddarganfod mwy a gweld drostynt eu hunain y manteision y maent wedi'u cynnig i gleifion.
Trefnir Gwobrau GIG Cymru gan Gwelliant Cymru, sef y gwasanaeth gwella cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
I gael rhestr lawn o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ewch i https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/gwelliant-cymru/academi-gwelliant-cymru/gwobrau-gig-cymru/.