Neidio i'r prif gynnwy

Neges i gyflenwyr ynghylch cefnogaeth i GIG Cymru yn ystod COVID-19

PPE

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, yn ffodus, mae Gwasanaethau Caffael GIG Cymru wedi derbyn llawer iawn o gynigion o gefnogaeth gan ddiwydiant a'r sector gwyddorau bywyd ehangach, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y cymorth hwn yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Mae'r gefnogaeth aruthrol hon wedi arwain at GIG Cymru yn sicrhau cyflenwadau sylweddol o Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) a chynhyrchion meddygol critigol, ac mae wedi ein galluogi i sicrhau cyflenwad parhaus o gynhyrchion am gryn amser eto. Felly, ar hyn o bryd, ni fyddwn yn bwrw ymlaen ag unrhyw gynigion newydd o gefnogaeth sy'n gysylltiedig â PPE a/neu gynhyrchion meddygol critigol. Fodd bynnag, rydym yn ddiolchgar am eich cynnig o gefnogaeth ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi eto yn y dyfodol.

Rhannu: