Neidio i'r prif gynnwy

Optometryddion i ardystio nam ar y golwg am y tro cyntaf

 

Am y tro cyntaf yn y DU, bydd unigolion â nam ar eu golwg yn cael mynediad at ardystiad nam ar y golwg trwy wasanaethau optometreg lleoliadau gofal sylfaenol.  Gall optometryddion â chymwysterau perthnasol sy'n gweithio yng Nghymru bellach gwblhau tystysgrifau nam ar y golwg ar gyfer unigolion â dirywiad macwlaidd sych ar y ddwy ochr sy'n gysylltiedig ag oedran.

Dywedodd Rebecca Bartlett, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru, “Rydym wrth ein bodd bod y gwasanaeth hwn gan GIG Cymru bellach yn fyw.  Disgwyliwn gynnydd ar unwaith yn nifer yr unigolion sy'n cael mynediad at ardystiad a'r cymorth cysylltiedig pwysig a ddaw yn sgil cofrestru.  Rydym hefyd yn disgwyl gweld gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau at wasanaethau llygaid mewn ysbytai a fydd yn rhyddhau apwyntiadau hanfodol i’r unigolion eraill â chyflyrau llygaid sydd angen cael eu gweld yn y lleoliad hwn''.

'Mae'r ardystiad o nam ar y golwg mewn lleoliadau gofal sylfaenol yn cael ei gefnogi gan ymchwil a gyflawnwyd gan Brifysgol Caerdydd ac a ariennir gan Sight Cymru (Agreement between ophthalmologists and optometrists in the certification of vision impairment | Eye (nature.com) (Saesneg yn unig). Roedd hyn yn dangos cytundeb tebyg rhwng offthalmolegwyr ymgynghorol ac optometryddion Gwasanaeth Gofal Gwan Cymru (LVSW) wrth nodi meini prawf cymhwyster ardystio ar gyfer pobl â nam ar eu golwg a darparodd dystiolaeth i gefnogi newid y polisi'.

“Mae cyflwyno ardystiad nam ar y golwg mewn lleoliadau gofal sylfaenol wedi’i ysgogi gan raglen diwygio contract optometreg Llywodraeth Cymru a fydd yn cynyddu ystod y gwasanaethau gofal llygaid a ariennir gan y GIG a ddarperir gan optometryddion ac optegwyr fferyllol yng Nghymru. Bydd pob aelod o’r tîm ymarfer yn cydweithio i weithio hyd eithaf eu trwydded glinigol briodol."

Dywedodd Owen Williams, Cyfarwyddwr Cyngor Cymru i’r Deillion, “Rydym wrth ein bodd bod Tystysgrifau Nam ar y Golwg bellach yn gallu cael eu rhoi ar y stryd fawr i gleifion â dirywiad macwlaidd sych ar y ddwy ochr sy'n gysylltiedig ag oedran. Mae’r dystysgrif yn ddogfen hollbwysig sy’n rhoi’r cyfle i gael cymorth ychwanegol, budd-daliadau, consesiynau ariannol, a gwasanaethau ym maes gofal cymdeithasol, y trydydd sector, a mannau eraill. Drwy osgoi oedi mewn ysbytai, bellach gellir rhoi cymorth o'r math hwn yn gyflymach a helpu'r claf i gynnal ei annibyniaeth ac osgoi bod yn agored i niwed, dyled, a dibyniaeth''.

"Mae Cyngor Cymru i’r Deillion yn awyddus i weld rhagor o wasanaethau llygaid ysbytai yn cael eu darparu mewn practisiau optometreg gofal sylfaenol lle mae'n ddiogel gwneud hynny, gan ddarparu dewis cyfleus a phrydlon i gleifion yn lle gwasanaethau mewn ysbytai."

Gall optometryddion yng Nghymru gael rhagor o wybodaeth am gymryd rhan yn y gwasanaethau drwy Gweithwyr Proffesiynol - GIG Cymru

Rhannu: