Heddiw, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) wedi llofnodi addewid cyflogwr gydag Amser i Newid Cymru; yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi diwedd ar stigma a gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl, a ddarperir gan ddwy o brif elusennau iechyd meddwl Cymru, sef Hafal a Mind Cymru.
Trwy lofnodi'r addewid, mae PCGC yn ymrwymo i newid y ffordd rydyn ni i gyd yn meddwl am iechyd meddwl ac yn gweithredu yn ei gylch yn y gwaith.
Cynhelir y seremoni arwyddo ar ffurf rithwir a bydd cynrychiolwyr o'r Cydwasanaethau yn addo cefnogi Amser i Newid Cymru, gyda chynllun gweithredu o weithgareddau a fydd yn helpu i dorri'r distawrwydd sy'n amgylchynu iechyd meddwl yn y gweithle.
Mae PCGC yn sefydliad cydfuddiannol annibynnol, sy’n eiddo i GIG Cymru ac sy’n cael ei gyfarwyddo ganddo. Cafodd ei ffurfio ar 1 Ebrill 2011 er mwyn darparu gwasanaethau proffesiynol, technegol a gweinyddol rhagorol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i bob un o’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau yn GIG Cymru.
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn ymuno â mudiad o dros 150 o sefydliadau sydd ar gynnydd sydd wedi arwyddo’r addewid Amser i Newid Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Lloyds Bank, Admiral Insurance, Trafnidiaeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Dywedodd Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru: “Rydyn ni wrth ein boddau bod PCGC wedi gwneud addewid i gymryd camau cadarnhaol i helpu i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu yn eu sefydliad. Rydym wedi gweithio gyda'r Cydwasanaethau i ddatblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr fydd wrth wraidd eu haddewid fel bod camau ymarferol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â stigma ar bob lefel o'r sefydliad.
Problemau iechyd meddwl yw prif achos absenoldeb salwch yn y gweithle, ac mae 1 o bob 6 gweithiwr yn profi symptomau iselder, straen neu orbryder. Amcangyfrifir bod cost problemau iechyd meddwl yng Nghymru yn £7.2 biliwn y flwyddyn o ran colli allbwn, biliau gofal iechyd a budd-daliadau cymdeithasol; a dyna pam mae achos moesol a busnes cryf i ddatblygu ac i greu gweithleoedd sy’n fwy iach i’r meddwl."
Ariennir Amser i Newid Cymru gan Comic Relief a Llywodraeth Cymru. Wedi'i sefydlu i sicrhau newid cadarnhaol yn agweddau'r cyhoedd tuag at broblemau iechyd meddwl, mae Amser i Newid Cymru yn cefnogi cymunedau a gweithleoedd i fod yn agored i broblemau iechyd meddwl; i siarad ac i wrando.