Mae PCGC wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Gwella Llesiant a Pherthyn yn y Gwaith gan y Rhwydwaith Cyflogwyr ar gyfer Cydraddoldeb a Chynhwysiant (enei) fel rhan o’i Wobrau Cynhwysiant Blynyddol.
Mae’r gwobrau yn cydnabod y sefydliadau gorau o ran dangos eu hymrwymiad i amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn y gweithle yn 2022.
Mae’r categori Gwella Llesiant a Pherthyn yn y Gwaith yn cydnabod sefydliad sydd wedi gweithredu’n helaeth ac yn gynaliadwy i wella ymwybyddiaeth, llesiant ac ymdeimlad o berthyn ei weithwyr yn sylweddol.
Dywedodd Julia Denyer, Pennaeth Datblygu Sefydliadol;
“Rwy’n hynod falch bod PCGC wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Mae hyn yn dyst i’r holl waith gwych a wnaed ym maes llesiant a datblygu ein diwylliant cynhwysol a thosturiol drwy’r rhaglen Dyma ein PCGC ni. Ni ddylid rhoi cydnabyddiaeth i’r rhai sy’n arwain y gwaith hwn yn unig ond dylid hefyd cydnabod ein Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant, Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, aelodau o’r Rhwydwaith Balch, aelodau o’r grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’n Hyrwyddwyr Newid Diwylliant.”
Cynhelir y seremoni ddydd Mercher, 30 Tachwedd 2022 yn y Sefydliad Ffiseg yng nghanol Llundain.
Mae PCGC wedi bod yn sefydliad sy’n aelod o enei ers mis Mawrth 2022 a gall pob cydweithiwr gyrchu’r adnoddau gwych sydd ar gael drwy gofrestru yma: https://www.enei.org.uk/membership-join/ (Saesneg yn unig)