Neidio i'r prif gynnwy

PCGC wedi'i hachredu â Gwobr Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer am y tro cyntaf i GIG Cymru

 

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) yn falch o gyhoeddi ei bod wedi’i hachredu â’r Wobr Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer (CSE), sy’n golygu mai hwn yw sefydliad cyntaf GIG Cymru i gyrraedd safon werthfawr iawn y llywodraeth.

Mae achrediad CSE yn asesu sefydliadau ac yn mesur meysydd sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid y mae ymchwil wedi'u nodi fel blaenoriaeth i gwsmeriaid gan ganolbwyntio'n benodol ar; Mewnwelediad Cwsmeriaid; Diwylliant y Sefydliad; Gwybodaeth a Mynediad; Cyflenwi ac Amseroldeb ac; Ansawdd Gwasanaeth.

O fewn y fframwaith hwn, mae CSE hefyd yn blaenoriaethu tri maes amlwg; fel sbardun gwelliant parhaus; fel arf datblygu sgiliau; fel dilysiad annibynnol o gyflawniad.

Fel rhan o’r asesiad wnaeth PCGC ragori ar y cydymffurfedd gofynnol 12 o weithiau – sy’n golygu bod y sefydliad wedi rhagori ar y safonau gofynnol. Mae hyn yn arbennig o amlwg gan fod sefydliadau fel arfer yn rhagori ar ddau neu dri maes cydymffurfedd o weithiau pan gânt eu hasesu. Cydymffurfiodd y Cydwasanaethau hefyd 33 o weithiau lle bodlonir y safon ofynnol ym mhob achos, gyda dim ond 2 achos o  Gydymffurfiaeth Rannol / meysydd i’w gwella, sy'n gyflawniad gwych.

Dywedodd Neil Frow OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr PCGC; “Rwy’n falch iawn bod y Bartneriaeth Cydwasanaethau wedi’i hachredu â CSE – ac ar ei hymgais gyntaf. Dyma’r tro cyntaf i sefydliad yn GIG Cymru gael yr achrediad hwn ac mae’n dangos ein hymrwymiad i ragoriaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid sy’n ddyledus i raddau helaeth i’r staff hynod broffesiynol sy’n gweithio yn PCGC.”

“Hoffwn ddiolch i’r holl gydweithwyr a fu’n ymwneud â’r achrediad, gan gynnwys y rhai a oedd yn rhan o weithgor y Gymuned Ymarfer a weithiodd yn galed i sicrhau bod y broses asesu yn rhedeg mor llyfn ag y gwnaeth ac a roddodd yr holl wybodaeth berthnasol i’r aseswyr.”

“Mae PCGC wedi gosod y meincnod ar gyfer rhagoriaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid a bellach mae sefydliadau eraill wedi cysylltu â niw fel mentoriaid i ddysgu’r gwersi o ran sut i gyflawni’r achrediad. Llongyfarchiadau mawr unwaith eto i bawb a gymerodd ran a diolch i’n holl staff am eich ymrwymiad parhaus, eich gwaith caled a’ch ymroddiad.”

Rhannu: