Neidio i'r prif gynnwy

PCGC yn cyflawni'r Pum Cam Allweddol i Ddiogelu Cymru yn y Gwaith

 

Mae PCGC yn falch o gadarnhau ei fod, fel sefydliad, wedi cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru i reoli risg COVID-19.

Mae Pum Cam Allweddol Llywodraeth Cymru, sef Diogelu Cymru yn y gwaith, yn addewid sydd wedi'i gyflawni a'i lofnodi'n ffurfiol gan Neil Frow, Rheolwr Gyfarwyddwr PCGC. Mae hyn yn dangos bod y Bartneriaeth Cydwasanaethau wedi asesu unrhyw risgiau yn iawn ac wedi rhoi mesurau lliniaru priodol ar waith.

Llwyddwyd i gyflawni'r addewid trwy waith caled ac ymroddiad y grwpiau o Arweinwyr Addasu a Newid a Safleoedd Adeiladu sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod holl swyddfeydd PCGC yn bodloni’r ddeddfwriaeth Coronafeirws ac unrhyw ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol arall y Llywodraeth.

Rhannu: