Yr wythnos diwethaf fe wnaethon ni groesawu Jacqueline Totterdell, Prif Weithredwr GIG Cymru, i IP5 i roi cipolwg uniongyrchol iddi ar y gwaith rydyn ni'n ei wneud o ddydd i ddydd yn GIG Cymru.
Gwelodd a chlywodd Jacqueline, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar a ddechreuodd yn y rôl ym mis Hydref, am elfennau amrywiol o'n gwaith ar ein safle yng Nghasnewydd.
Roedd hyn yn cynnwys yr arbedion y mae ein tîm Caffael yn eu cyflawni i GIG Cymru, ein rôl wrth ddarparu'r brechlyn ffliw am y tro cyntaf trwy ein gwasanaethau negesydd iechyd a chipolwg y tu ôl i'r llenni ar ddatblygiad ein gwasanaeth radiofferylliaeth.
Gwelodd hefyd y paneli solar newydd ar y safle sy’n chwarae rhan yn ein cynllun gweithredu datgarboneiddio. Yn ogystal â hyn ymwelodd â'n labordy profi deunyddiau llawfeddygol.
Dywedodd Neil Frow MBE, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Roedden ni’n falch o groesawu Jaqueline Totterdell, Prif Weithredwr GIG Cymru, ar ei hymweliad cyntaf â’r Bartneriaeth Cydwasanaethau.
“Cawsom ychydig oriau gwych yn clywed ganddi, yn trafod y gwaith hanfodol rydyn ni’n ei wneud ac yn dangos iddi rai o’n gwasanaethau allweddol i GIG Cymru.”