Neidio i'r prif gynnwy

Rheolwr Gyfarwyddwr PCGC yn derbyn OBE yn ffurfiol

 

Llongyfarchiadau i Neil Frow, Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) sydd wedi derbyn anrhydedd Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn ffurfiol fel rhan o Restr Anrhydeddau Pen-blwydd Ei Fawrhydi’r Brenin. Derbyniodd Neil yr OBE gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ar 1 Tachwedd 2023 mewn seremoni yng Nghastell Windsor.

Mae’r anrhydedd OBE yn urdd sifalri Brydeinig, sy’n gwobrwyo cyfraniadau i’r celfyddydau a gwyddorau, gwaith gydag elusennau a sefydliadau llesiant, a gwasanaeth cyhoeddus y tu allan i’r Gwasanaeth Sifil hefyd.

Cafodd Neil ei gydnabod am ei gyfraniad sylweddol i GIG Cymru ar ôl arwain Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ers ei sefydlu yn 2011. Mae hyn wedi bod yn allweddol wrth ddarparu ystod o wasanaethau proffesiynol, technegol a gweinyddol o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n cefnogi byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru.

Mae Neil yn frwd dros wella ansawdd gwasanaethau iechyd ac mae wedi annog gweithio mewn partneriaeth yn rhagweithiol fel catalydd i wella’r gwasanaeth a ddarperir a ffocws ar gwsmeriaid.

Meddai Neil Frow OBE;

“Roedd yn fraint fawr ac yn falch o dderbyn OBE gan Dywysog Cymru. Mae’n fraint cael gweithio gyda phobl wirioneddol ysbrydoledig yn PCGC a GIG Cymru yn ehangach sy’n gweithio’n ddiflino yn y cefndir i gefnogi cyrff iechyd i ddarparu gofal rheng flaen.”  

Meddai Yr Athro Tracy Myhill OBE Cadeirydd PCGC

“Rwy’n falch iawn o weld bod Neil wedi’i anrhydeddu am ei ymroddiad a’i ymrwymiad diwyro i PCGC a GIG Cymru yn gyffredinol. Mae’n anrhydedd haeddiannol iawn. Ni allai fod wedi digwydd i dderbynnydd mwy haeddiannol.”  

Rhannu: