Heddiw, mae’n 15 mlynedd ers sefydlu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i sbarduno gwerth, arloesi a phartneriaeth ar draws GIG Cymru.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi datblygu i ddarparu ystod gynyddol o wasanaethau sy'n cadw GIG Cymru i symud o ddydd i ddydd.
Erbyn hyn, mae gennym ni fwy na 6,000 o staff, sy’n cynnwys tua 2,500 o feddygon preswyl ac y llynedd roedd ein cyllideb refeniw yn £892 miliwn.
Rydym yn prosesu 95% o wariant y GIG ac y llynedd fe wnaethom drin mwy na 29 miliwn o eitemau yn ein golchdai.
Wrth i ni nodi ein 15 mlynedd, rydym yn falch o'n cyflawniadau hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod!
Dywedodd Neil Frow OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Bymtheng mlynedd yn ôl, sefydlwyd PCGC gyda gweledigaeth glir i ddarparu cydwasanaethau gyda’r nod o gryfhau GIG Cymru.
“Heddiw, rydyn ni’n dathlu pa mor bell rydyn ni wedi dod. O gefnogi ein gweithlu i alluogi gwell gwerth am bob punt sy’n cael ei wario, caiff ein heffaith ei theimlo ar draws pob rhan o'r GIG.
“Rwyf am gydnabod cyfraniad anhygoel ein staff — o’r gorffennol a’r presennol — sydd wedi adeiladu sefydliad cenedlaethol sy’n sail i GIG Cymru bob dydd.
“Mae eu harbenigedd, eu hymrwymiad a’u harloesedd wedi ein galluogi i ddarparu gwasanaethau cyson o ansawdd uchel ar raddfa fawr.
“Rwy’n hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd, a hyd yn oed yn fwy cyffrous am y rhan y byddwn yn ei chwarae wrth lunio dyfodol GIG Cymru.”