Mae tîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys nifer o wasanaethau Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC), ochr yn ochr â phartneriaid yn y Byrddau Iechyd, wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Prosiect Cyllid Digidol y Flwyddyn gan Wobrau Cyllid Cyhoeddus am eu datrysiad gweithlu ac ariannol arloesol a roddwyd ar waith ar gyfer y model Cyflogwr Arweiniol Sengl (SLE) o fewn PCGC.
Mae’r menter SLE gan y tîm amlddisgyblaethol, a oedd yn cynnwys cyfarwyddiaethau Cyllid, Pobl a Datblygiad Sefydliadol, Cyflogres, Swyddfa Rheoli Prosiectau PCGC a rhanddeiliaid y Byrddau Iechyd wedi galluogi talu sifftiau locwm a weithiwyd yn unrhyw le ledled Cymru i holl feddygon iau a staff deintyddol SLE gan ddefnyddio un aseiniad a chofnod cyflogres a chadw codau costau a rheolaeth ariannol cywir y sefydliad lleol.
Mae’r datrysiad digidol a nodwyd wedi galluogi’r model hwn i weithredu a darparu buddion ariannol a gweithredol na fyddai wedi bod yn bosibl gyda phroses â llaw. Mae gweithredu’r model SLE ar draws GIG Cymru wedi galluogi ehangu talu am sifftiau locwm ymhellach yn ystod 2021/22. Cyn rhoi’r SLE ar waith, byddai unigolion dan hyfforddiant yn cael eu cofrestru mewn un Bwrdd Iechyd ar gyfer eu swyddi hyfforddi parhaol a phe byddent yn dymuno gweithio sifftiau locwm mewn unrhyw Fyrddau Iechyd eraill byddai'n rhaid iddynt gofrestru eto ar eu cyflogres.
Arweiniodd hyn at ddyblygu data/ymdrech a slipiau cyflog lluosog ar gyfer unigolion dan hyfforddiant a oedd yn aml yn achosi problemau cod treth, dryswch a rhwystredigaeth. Cynlluniwyd strwythur codio cyllid/cyflogres arloesol fel rhan o waith ehangu’r SLE er mwyn galluogi i ffrydiau cyflogres awtomataidd gael eu dosbarthu i Fyrddau Iechyd yn manylu ar godau cost lleol a gwybodaeth am gyflogau tra bod unigolion dan hyfforddiant yn cael eu cyflogi’n ganolog drwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Mae defnydd pellach o’r strwythur codio wedi’i roi ar waith sy’n galluogi unigolion dan hyfforddiant i weithio sifftiau mewn unrhyw Fwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth ar draws GIG Cymru ac ar draws ystod o arbenigeddau, Yn ogystal, mae’r rhain i gyd yn cael eu talu mewn un slip cyflog misol. Mae Byrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau yn parhau i gael ffrwd cyflogres awtomataidd i’w lanlwytho i’r cyfriflyfr sy’n manylu ar yr holl sifftiau a weithiwyd ac yn codio’r rhain yn gywir i’r adran/ward lle gweithiwyd y sifft locwm.
Mae adborth rhanddeiliaid gan gynrychiolwyr dan hyfforddiant wedi bod yn hynod gadarnhaol ac mae ceisiadau gan unigolion dan hyfforddiant mewn Byrddau Iechyd nad ydynt yn cymryd rhan yn y model hwn yn cael eu hystyried ar gyfer gweithredu.
Gyda chynlluniau i bump o’r saith sefydliad posibl weithredu’r model talu sifft locwm awtomataidd yn llawn erbyn canol 2022, y nod yw sicrhau bod holl sefydliadau GIG Cymru yn cymryd rhan erbyn diwedd 2022.
Mae’r Gwobrau Cyllid Cyhoeddus, a gynhelir yn flynyddol, yn cydnabod y bobl, y cynhyrchion a’r gwasanaethau sy’n dangos rhagoriaeth a gwreiddioldeb o fewn cyllid cyhoeddus. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y seremoni wobrwyo ffurfiol a gynhelir ar 29 Tachwedd.