Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Cenedlaethol PROMPT Cymru yn cynnal digwyddiad hyfforddiant datblygu

Ddydd Mercher 30 Mawrth, croesawodd Tîm Cenedlaethol PROMPT Cymru, mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, 16 o Barafeddygon, yn cynrychioli pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru, i ddigwyddiad hyfforddi Datblygu Cyfadran PROMPT Cymru yn y Gymuned yn Llandrindod.

Mae 'PROMPT Cymru yn y Gymuned' yn rhaglen diogelwch mamolaeth 'Cymru Gyfan' a ddatblygwyd gan Dîm Cenedlaethol PROMPT Cymru, gan adeiladu ar weithrediad llwyddiannus PROMPT Cymru.

Ynghyd â'r 5 Bydwraig a oedd yn bresennol, bydd Uwch Barafeddygon ac Arweinwyr Clinigol y Byrddau Iechyd hyn yn ymuno â'u cyfadrannau PROMPT Cymru yn y Gymuned lleol sefydledig. Byddant yn darparu hyfforddiant efelychu o ansawdd uchel sy'n gyson â rôl clinigwyr sy'n darparu gofal mamolaeth mewn lleoliadau cymunedol.

Mae hwn yn gysyniad newydd cyffrous ac mae Cymru wir yn arwain y ffordd yn hyn o beth – gan hyrwyddo gweithio a dysgu amlbroffesiynol wrth reoli argyfyngau geni plant cyn yr ysbyty, gyda'r nod o sicrhau'r canlyniadau mwyaf diogel i fenywod a babanod.

Dywedodd Sarah Hookes,

“Roedd yn wych gweld bod pobl yn cydweithio ac yn meithrin perthnasoedd yn ystod yr hyfforddiant. Roedd gan y Parafeddygon a'r Bydwragedd ddiddordeb gwirioneddol yn rolau ei gilydd a sut y gallant gefnogi ei gilydd i ddarparu gofal diogel a thosturiol. Rydym wedi ein cyffroi’n fawr gan y cydweithio hwn ac edrychwn ymlaen at groesawu parafeddygon i hyfforddiant PROMPT Cymru yn y Gymuned.”

Rhannu: