Llongyfarchiadau i dîm Eiddo Gwasanaethau Ystadau Arbenigol (SES) a enillodd gategori ‘Darparu Gwasanaethau Mwy Integredig’ yng Ngwobrau cyntaf Ystadau Cymru.
Mae Gwobrau Ystadau Cymru yn dathlu rhagoriaeth ac arferion gorau wrth reoli ystâd sector cyhoeddus Cymru yn weithredol trwy gydweithrediad strategol a chanllawiau arferion da.
Wrth iddynt ennill y wobr, cyfeiriwyd at SES fel ‘enghraifft wych o gydweithio rhwng nifer o bartneriaid i sefydlu cyfleuster iechyd a lles cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar y gymuned a thai fforddiadwy ar gyfer prosiect Canolfan Gofal Integredig Aberaeron.’
Nododd y panel o feirniaid fod nifer o gystadleuwyr cryf yn y categori hwn, ond eu bod yn ‘ymwybodol o gymhlethdod yr achos hwn, gan gynnwys addasu hen adeilad o swyddfeydd ac ysbyty at ddibenion gwahanol i ddiwallu nifer o anghenion lleol mewn ardal wledig yng ngorllewin Cymru. Roedd defnydd da o bolisi wrth ymgysylltu â’r Protocol Trosglwyddo Tir a Phrotocol Tai Fforddiadwy’r GIG a oedd yn sicrhau’r budd mwyaf o’r asedau dros ben a ryddhawyd o ddatblygiad newydd y Ganolfan Gofal Integredig.’
Bu SES yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu Canolfan Gofal Integredig Aberaeron newydd i ddwyn ynghyd wasanaethau a ddarperir gan Bractis Meddygon Teulu Tanyfron, gwasanaethau clinigol a staff cymorth Ysbyty Aberaeron, staff swyddfa o Felinfach, gwasanaethau nyrsio cymunedol, y trydydd sector, staff y Cyngor, swyddogion iechyd y cyhoedd o Dregaron a Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol a staff iechyd meddwl Porth Gofal.
Rhoddodd SES gyngor a chefnogaeth trwy gydol y broses i'r Bwrdd Iechyd a oedd yn delio â chaffael Minaeron, gan ddarparu arweiniad dylunio a manyleb a chyngor prydles ar gyfer y Ganolfan Gofal Integredig wedi'i hailddatblygu yn ogystal â delio â chael gwared ar adeilad gwag Ysbyty Aberaeron.
Aethpwyd ymlaen i gaffael Minaeron, sef swyddfeydd a adeiladwyd yn y 1970au, gan Gyngor Sir Ceredigion o dan y Protocol Trosglwyddo Tir, canllawiau arfer gorau Llywodraeth Cymru ar gyfer trosglwyddo neu waredu asedau eiddo rhwng cyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod Ysbyty gwag Aberaeron, cyn wyrcws a adeiladwyd ym 1838 ac sydd wedi'i leoli yn Ardal Gadwraeth Aberaeron, ar gael i’w gwaredu ar gronfa ddata ePIMS ac fe’i cynigiwyd i'r Awdurdod Lleol a’r RSLs lleol o dan Brotocol Tai Fforddiadwy'r GIG. Fe'i prynwyd gan Gymdeithas Tai Wales & West i'w ailddatblygu yn dai fforddiadwy.
Dywedodd Clive Ball, Pennaeth Eiddo, Gwasanaethau Ystadau Arbenigol; “Rwy'n hynod falch o waith caled y tîm trwy gydol y prosiect cymhleth hwn, sy'n enghraifft berffaith o weithio mewn partneriaeth a alluogodd i ni greu Canolfan Gofal Integredig sy'n dod â gofal iechyd a chymdeithasol ynghyd i gymunedau lleol am y tro cyntaf. Mae’n trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng nghefn gwlad gorllewin Cymru. ”
Neil Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ystadau Arbenigol; “Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o reoli gweithredol ystâd sector cyhoeddus Cymru trwy gydweithrediad strategol â phartneriaid a defnyddio canllawiau arferion da. Rwy’n falch o’r gwaith y mae tîm Eiddo SES wedi’i wneud i gyflawni’r prosiect hwn”.