Neidio i'r prif gynnwy

Tîm PCGC yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Cyllid Cymru

 

Cyhoeddwyd yn ddiweddar bod tîm trawsadrannol cydweithredol o gydweithwyr y Bartneriaeth Cydwasanaethau yn enillwyr yn y categori ‘Arwr/Arwyr COVID’ mewn seremoni fawreddog dan arweiniad ac a letywyd gan Wobrau Cyllid Cymru.

Mae Gwobrau Cyllid Cymru wedi’u llunio i adnabod, denu a buddsoddi yn y gweithwyr proffesiynol a thalentog sy’n gweithio ym maes cyllid yng Nghymru. Mae'r gwobrau'n arddangos y doniau gorau ym maes cyllid, o’r cyfarwyddwyr cyllid profiadol i’r arwyr nad ydynt wedi cael eu cydnabod sy'n arwain cyfrifyddu trafodion arbenigol, ac, yn bwysig iawn, y genhedlaeth nesaf o brentisiaid a graddedigion.

Roedd y tîm buddugol yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o PCGC, gan gynnwys aelodau o Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Felindre, a ddangosodd i'r beirniaid gwobrau sut roedd dull arloesol ac ystwyth y tîm wrth drawsnewid llywodraethu wedi galluogi'r Bwrdd priodol a'r cyrff yr oeddent yn cyflenwi iddynt, i gael sicrwydd a hyder yn ansawdd a chyflenwad y cyfarpar diogelu personol (PPE) ar draws y GIG, y contractwyr gofal sylfaenol a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Wrth i'r pandemig ddatblygu, sylweddolwyd bod angen trawsnewid prosesau llywodraethu i gael rhagor o PPE ar gyfer y staff rheng flaen, wrth fynd i'r afael â materion prinder cyflenwad a gweithio o bell.

Sefydlwyd grŵp llywodraethu cyllid a oedd yn defnyddio arbenigedd cenedlaethol yr adrannau Cyllid, Caffael, Archwilio Mewnol, Atal Twyll, Gwasanaethau Cyfreithiol, Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol (SMTL), Taliadau ac roedd yn cynnwys Is-gadeirydd y Bwrdd. Gyda'i gilydd, fe wnaethant graffu ar gymaint o wybodaeth ag y gellid ei chasglu i lywio'r broses benderfynu gan y Llywodraeth a'r Bwrdd trwy ffurf rhestr wirio.

Roedd y rhestr wirio yn cynnwys ystyriaethau o safon y cynnyrch, gwiriadau ar gefndiroedd y cwmnïoedd, trefniadau prisio a thalu a hefyd yn cynnig cyngor a nodiadau risg i'r bwrdd er mwyn eu helpu i benderfynu a ddylent gael eu cymeradwyo. Cynhaliwyd hyn o bell gan ddefnyddio platfform Microsoft Teams sydd newydd ei weithredu. Cafodd y Bwrdd sesiynau briffio rheolaidd i sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu'n llawn wrth iddynt wneud penderfyniadau.

Defnyddiwyd y broses hon oddeutu 35-40 gwaith pan oedd y pandemig ar ei anterth. Chwaraeodd Archwilio Mewnol rôl allweddol wrth adolygu'r broses ac argymell gwelliannau yn barhaus er mwyn sicrhau bod adolygiad parhaus a gwelliannau i'r prosesau ar waith.

Roedd y broses newydd ac arloesol hon yn galluogi gwneud penderfyniadau ystwyth a chyflymach a oedd yn sicrhau bod gan weithwyr rheng flaen fynediad at PPE hanfodol. Roedd hefyd yn galluogi cymorth PPE ar y cyd i NHS England a thrwy'r dull hwn, diogelwyd pwrs y wlad rhag twyll posibl.

Dywedodd Andy Butler, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol: ““Chwaraeodd Cydwasanaethau GIG Cymru ran allweddol wrth sicrhau bod gan ein staff rheng flaen fynediad at PPE hanfodol yn ystod y pandemig. Roedd yn ymdrech tîm go iawn. Bu’r Adran Gyllid yn cefnogi cydweithwyr ym maes Caffael, y Gwasanaeth Negesydd Iechyd ac eraill ar draws adrannau PCGC a buon nhw’n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru hefyd.  Rwy'n falch iawn bod ein hymdrechion ar y cyd wedi cael eu cydnabod gan Wobrau Cyllid Cymru 2021, sy’n wobrau uchel eu bri. ”

Bydd llawer o nodweddion y broses ddiwygiedig yn cael eu cynnal yn y dyfodol. Mae’r dull a gymerwyd gan PCGC yn ystod y pandemig yn un o gyfres o astudiaethau achos o arferion gorau a fydd yn cael eu defnyddio i wella dulliau llywodraethu'r Bartneriaeth Cydwasanaethau yn barhaus at gyllid GIG Cymru.

Mae PCGC hefyd wedi croesawu’r cyfle i arddangos y dull i gydweithwyr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon fel rhan o fenter i gyfnewid yr hyn a ddysgir.

Rhannu: