Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Systemau Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru ar y Rhestr Fer ar gyfer Gwobr HSJ

 

Mae tîm Systemau Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru  (OfWCMS), mewn partneriaeth ag RLDatix, wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori ‘Cyfraniad Mwyaf Effeithiol at Ddiogelwch Cleifion’ yng ngwobrau mawreddog Partneriaeth Cyfnodolyn y Gwasanaeth Iechyd (HSJ).

Mae’r tîm OfWCMS a’r holl gyfranwyr ar draws Cymru wedi datblygu proses a system sy’n sicrhau diogelwch cleifion a staff ac sy’n gwella cydweithio a dysgu a rennir.

Cychwynnwyd y gwaith o ddatblygu system newydd gan fod angen dysgu cenedlaethol a rennir ar GIG Cymru i wella gwasanaethau ac i leihau niwed, gyda phrofiad cleifion cyson ar draws y wlad. Y nod oedd darparu system sengl yn y pen draw, gyda data unedig ar gyfer Cymru gyfan a fyddai’n dod â systemau gwahanol at ei gilydd ar gyfer ymdrin â digwyddiadau, cwynion, hawliadau, achosion o iawn, cofrestri risg, atgyfeiriadau diogelu a chofnodion adolygu marwolaethau yn gyson.

At hynny, byddai cofnodion wedi’u cysylltu â’i gilydd i roi darlun cyfannol fesul adran/ward, gan y Bwrdd Iechyd a ledled Cymru. Mae integreiddio â systemau cleifion a staffio yn sicrhau na fyddai’n ofynnol i wahanol gyrff iechyd ail-lunio data, gan wella cysondeb ac ansawdd.

Roedd yr holl sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru, gan gynnwys practisiau gofal sylfaenol, deintyddol, ac optometreg, wedi’u cynnwys yn y fenter dechnoleg, gan weithio gyda’r tîm o RLDatix. Roedd y rhain yn cynnwys y 7 Bwrdd Iechyd; 3 Ymddiriedolaeth; 2 Awdurdod Iechyd Arbennig; y Gwasanaeth Archwilio Meddygol ar gyfer Cymru; Cynghorau Iechyd Cymuned.

Yn ogystal, datblygwyd tri phrif faes newydd o ran swyddogaeth mewn partneriaeth â GIG Cymru i gefnogi Diogelwch Cleifion ymhellach. Modiwl Diogelu, modiwl Gwneud Iawn a’r platfform newydd ar gyfer Archwilwyr Meddygol oedd y rhain.

Aeth y system newydd yn fyw ar 1 Ebrill 2021, ac fe’i mabwysiadwyd yn gynnar a’i chyflwyno’n raddol yn ystod 2021.

Sicrhaodd buddion y prosiect fod data bellach yn cael eu casglu mewn ffordd unffurf, gan gynnwys digwyddiadau, cwynion, hawliadau a chofnodion marwolaethau; y gellir gweld yr holl ddata gofal iechyd ar draws sefydliadau iechyd ac y gellir eu dadansoddi mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr; y gall sefydliadau gofal iechyd ddysgu o ddigwyddiadau wrth iddynt ddigwydd/wrth i hawliadau gael eu gwneud, sydd wedi bod yn anodd yn y gorffennol oherwydd natur wahanol digwyddiadau a hawliadau a sut y cawsant eu cofnodi; fod cyflawni gyda fframwaith Unwaith i Gymru yn sicrhau datrysiad cost-effeithiol

Dywedodd Jonathan Webb, Pennaeth Diogelwch a Dysgu:

“Rydw i wrth fy modd bod y bartneriaeth rhwng Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, y 15 bwrdd iechyd yn GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yn RLDatix wedi’i chydnabod yn y categori ‘Cyfraniad Mwyaf Effeithiol at Ddiogelwch Cleifion’.”

“Mae System Rheoli Cwynion Unwaith i Gymru yn rhoi cyfle unigryw i alluogi gwell cysondeb wrth gasglu gwybodaeth am ddigwyddiadau a chwynion ar draws y GIG ac mae’n cynnwys gwasanaethau cymunedol megis gwasanaethau meddygon teulu gofal sylfaenol, gwasanaethau optometreg a deintyddion.”

“Mae’r ffaith bod y bartneriaeth hon eisoes wedi gwneud cymaint o welliant er gwaethaf heriau’r pandemig yn dyst i ymrwymiad yr holl staff yn y GIG.”

Cyhoeddir yr enillwyr yn seremoni gwobrau HSJ a gynhelir ar 24 Mawrth 2022.

Rhannu: