Roedd Cadwyn Gyflenwi PCGC yn falch iawn o groesawu cynrychiolaeth o Wasanaethau Gofal Iechyd Gwlad yr Iâ ar gyfer ymweliad deuddydd ar 15 ac 16 Mehefin 2023. Amcan eu hymweliad oedd rhoi System Rheoli Warws Oracle (WMS) ar waith yn eu systemau eu hunain yng Ngwlad yr Iâ. Roedd rhannu gwybodaeth, arloesi a chydweithio yn crynhoi’r ymweliad a drefnwyd gan Stuart Fraser o Dîm Canolog PCGC (CTeS).
Roedd yr ymweliad yn canolbwyntio ar Warysau Rhanbarthol Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr. Roedd y ddau ddiwrnod yn canolbwyntio’n fawr ar fanteision WMS ar gyfer Cadwyn Gyflenwi PCGC a helpu’r cynrychiolwyr o Wlad yr Iâ i wneud penderfyniadau ynghylch yr hyn a fyddai’n gweithio iddyn nhw gyda phwyslais ar ffurfweddu, sefydlu a gweithredu systemau.
Dywedodd Louise Rogers BEM, Dirprwy Bennaeth y Gadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth, “Roedd gweithio ar y cyd â’n cydweithwyr yng Ngwlad yr Iâ yn brofiad gwerth chweil, un y mae Cadwyn Gyflenwi PCGC hefyd wedi dysgu ohono.” Wrth symud ymlaen, bydd Cadwyn Gyflenwi PCGC yn parhau i gynnal cysylltiadau â Thîm y Gadwyn Gyflenwi Gwasanaeth Gofal Iechyd Gwlad yr Iâ, a, lle bo modd, eu cefnogi ar eu taith WMS.”
Dywedodd Thora Hirst o Wasanaeth Gofal Iechyd Gwlad yr Iâ, “Rydym wedi dysgu cymaint dros y dyddiau diwethaf ac ni allwn ddiolch digon i chi am y caredigrwydd yr ydych wedi ei ddangos i ni.”