Neidio i'r prif gynnwy

Timau Gwasanaethau Caffael PCGC ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar restr fer gwobr gaffael genedlaethol

 

Dewiswyd tîm Cyrchu a Chomisiynu Gwasanaethau Caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) mewn cydweithrediad ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar gyfer rhestr fer Gwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus Cymru eleni.

Mae'r timau wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Cyflenwi Caffael Gorau am eu gwaith cydweithredol ar Wasanaethau Hyfforddiant ac Addysg Iechyd Proffesiynol. Diben y broses gaffael oedd sicrhau darpariaeth o addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel i sicrhau cynaliadwyedd yng ngweithlu'r GIG yng Nghymru drwy gomisiynu rhaglenni addysg cyn cofrestru ym meysydd sy’n cynnwys Nyrsio, Bydwreigiaeth ac amrywiaeth o Broffesiynau Perthynol i Iechyd.     

Mae Gwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) yn dathlu ac yn rhoi cyfle i arddangos y datblygiadau arloesol, y mentrau a'r datblygiadau sy'n gwneud Cymru'n arweinydd byd ym maes caffael cyhoeddus clyfar ac effeithiol. Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni Wobrwyo a gynhelir ar 26 Ebrill 2022.    

Meddai Jonathan Irvine, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Caffael a’r Gwasanaeth Negesydd Iechyd PCGC;

“Rwyf wrth fy modd bod y tîm Cyrchu a Chomisiynu Caffael, ar y cyd â'n cydweithwyr yn AaGIC, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr fawreddog hon. Mae hyn unwaith eto yn dangos y cryfder sy'n bodoli yn ein his-adran a'n dull o weithio ar draws y bartneriaeth er mwyn diwallu anghenion gofal iechyd poblogaeth Cymru yn y ffordd orau dros y degawd nesaf a thu hwnt.

A gaf i fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu hymdrechion parhaus a dymunaf bob lwc iddynt yn y seremoni wobrwyo.”

Rhannu: